BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

Cymru GoOr GoDd Canol DeOr DeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cerddwyr Treffynnon Clwb Cerddwyr Treffynnon
Ron Williams sydd yn adrodd hanes Cerddwyr Treffynnon, clwb fu'n dathlu ei ben-blwydd yn 50 ym Mehefin 2006.

Tri theulu o Dreffynnon oedd yn gyfrifol am ffurfio'r clwb. Roedd teuluoedd Attwood Howitt a Long wedi bod ar daith gerdded ar Foel Mamau yn ystod Pasg 1956.

Wrth iddynt ddychwelyd ar y bws yn ôl adref, bu'r teuluoedd yn trafod sefydlu Clwb Cerdded yn y dref.

Trefnwyd cyfarfod cyhoeddus gan Fred Long, oedd yn Brif Swyddog Cyllidol Cyngor Dosbarth a Thref Treffynnon.

O ganlyniad i'r cyfarfod sefydlwyd y clwb ac fe gytunwyd ar raglen o ddigwyddiadau.

O'r aelodau gwreiddiol y mae pedwar yn parhau yn weithgar gyda'r clwb.

Mae Jean Llinares, merch Fred Long ac sydd yn briod â Vicente Llinares yn aelodau gwreiddiol yn ogystal â'r brodyr Gwilym a Cyril Morgan.

"Pan drefnodd fy nhad y cyfarfod cyntaf nid oedd ganddo syniad y byddai'n llwyddo," meddai Jean Llinares.

"Byddai'n hynod falch o'r hyn mae'r clwb wedi cyflawni a'i fod yn parhau yn llwyddiannus 50 mlynedd yn ddiweddarach."

Dros y blynyddoedd mae'r clwb wedi croesawu myfyrwyr fel aelodau dros-dro o Brydain a thu hwnt.

Ymysg yr aelodau hynny fe ddaeth cyn fyfyriwr o NEWI, Denis Arnould, yr holl ford o Wlad Belg ar gyfer y dathliadau.

Mewn neges fe ddywedodd: "Roedd fy mlynyddoedd gyda Clwb Cerdded Treffynnon ymysg y gorau o fy mywyd."

Cynhelir dwy daith gerdded yr wythnos yn ystod yr haf a chwe thaith y mis yn ystod y gaeaf.

Trefnir gwyliau a phenwythnosau cyson yn y Deyrnas Unedig ac ar y cyfandir. Mae'r clwb yn croesawu pobl ifanc a theuluoedd i ymuno gyda hwy.

Gellir cysylltu gyda'r clwb drwy ffonio 01352 715723 neu ymweld â www.holywellramblers.org.uk lle ceir rhestr lawn o ddigwyddiadau.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy