Bwystfil Brechfa, Bwystfil y Bont - mae straeon lu am gathod mawr yng nghefn gwlad Cymru. Dyma gyfle i ddatrys y dirgelwch. Rhaid ichi gymryd cymaint o luniau â phosib o'r Gath Fawr yn yr amser sydd gennych. Mwya' i gyd y saethoch chi, ucha'i gyd eich sgôr!
Ond gwyliwch - mae'r cathod yma'n bethau chwim ac fe allech chi gymryd lluniau o adar yn unig - neu'n waeth ...
NODYN:
Os mae'r gêm yn chwarae'n araf ar eich PC, cliciwch ar 'Dewisiadau', ac o dan 'Ansawdd' dewiswch 'Canolig' neu 'Isel'. Fe ddylai hynny gywiro unrhyw arafwch.
I ganfod Sut i Chwarae'r Gêm, cliciwch ar 'Cymorth', ac er mwyn cynyddu neu leihau lefel yr her cliciwch ar 'Dewisiadau'. I ailgychwyn y gêm, pwyswch ar 'Refresh' yn eich porwr.
Beth am herio cyfaill i chwarae'r gêm? Unwaith rydych chi wedi cael tro gallech e-bostio'r gêm ymlaen at gyfaill i weld a fedran nhw allu sgorio'n fwy na chi!