Croeso i eiriadur Cymraeg Cysgair BBC

Defnyddiwch y geiriadur i ddod o hyd i dros 60,000 o eiriau ac ymadroddion Cymraeg yn rhad ac am ddim. Mae modd chwilio am eiriau yn Saesneg neu'n Gymraeg, gweld sut mae rhedeg berfau a chlywed sut i ynganu geiriau trwy wrando ar glipiau sain.

  • Teipiwch y gair neu'r ymadrodd rydych yn chwilio amdano i mewn i'r blwch chwilio.
  • Oni bai eich bod yn nodi fel arall, bydd y geiriadur yn chwilio o Saesneg i'r Gymraeg.
  • Gallwch newid cyfeiriad y chwilio (o Gymraeg i Saesneg neu o Saesneg i Gymraeg) trwy glicio ar y botwm perthnasol uwchben y blwch chwilio.
    Saesneg i Gymraeg - defnyddiwch y botwm yma pan fyddwch chi'n teipio gair Saesneg yn y blwch chwilio.
    Cymraeg i Saesneg - defnyddiwch y botwm yma pan fyddwch chi'n teipio gair Cymraeg yn y blwch chwilio.
  • Wedi i chi ddewis eich opsiynau, cliciwch ar y botwm 'Chwilio' a bydd y canlyniadau'n ymddangos yn nhrefn yr wyddor.
  • Os yw'r canlyniad yn cynnwys berfenw, gallwch glicio ar y linc 'Rhedeg y ferf' er mwyn gweld holl ffurfiau'r ferf. O'r fan hon, byddwch hefyd yn gallu dewis rhedeg berfau ychwanegol.
  • Pan fyddwch yn gweld yr eicon sain, cliciwch arno i glywed y gair yn cael ei ynganu.
  • Gallwch hefyd glicio ar y linc i'r porth termau (cynnwys allanol) er mwyn dod o hyd i fwy o wybodaeth am y gair rydych yn chwilio amdano.

Talfyriadau

Dyma restr o dalfyriadau rhannau ymadrodd a'u hystyr yn Gymraeg a Saesneg.

Talfyriad Cymraeg Disgrifiad Cymraeg Talfyriad Saesneg Disgrifiad Saesneg
berf Berf v Verb
be Berfenw vn Verb Noun
ans Ansoddair adj Adjective
adf Adferf adv Adverb
enw Enw n Noun
eb Enw benywaidd nf Feminine noun
eg Enw gwrywaidd nm Masculine noun
ll Lluosog p Plural
eg/b Enw gwrywaidd neu benywaidd (gwrywaidd gan amlaf) nm/f Masculine or feminine noun (more often masculine)
eb/g Enw benywaidd neu gwrywaidd (Benywaidd gan amlaf) nf/m Feminine or masculine noun (more often feminie)
cys Cysylltair conj Conjugation
rhagenw Rhagenw pro Pronoun
ardd Arddodiad prep Preposition

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.