BBC HomeExplore the BBC

SUL
20fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd

1 Paratoi
2 Llythrennedd

Gall dechrau ysgol fod yn adeg bryderus yn enwedig i rieni. Mae angen i chi baratoi eich hun a'ch plentyn ar gyfer y profiad.

Cyn iddyn nhw ddechrau:

Sgiliau cymdeithasol
Cyn dechrau yn yr ysgol, ac mewn da bryd cyn hynny os yn bosib, rhowch hwb i'ch plentyn drwy ei annog i ddatblygu sgiliau cymdeithasol da - y sgiliau hyn yw'r allwedd i wneud ffrindiau yn yr ysgol a'u cadw.

  • rhowch ddigonedd o gyfleoedd iddynt gymysgu â phlant eraill (mynychu grwpiau mam a'i phlentyn, grwpiau chwarae, chwarae meddal ac yn y blaen)
  • anogwch eich plant i rannu a chymryd tro
  • rhowch ffiniau pendant iddynt i ddangos ymddygiad derbyniol. Mae'n rhaid iddynt ddysgu bod "Na" yn golygu "Na"!
  • anogwch hwy i gadw teganau ar ddiwedd gweithgaredd.

Sgiliau ymarferol

    Cyn iddynt fynd i'r ysgol, dylai plant:
  • fod yn hyderus ynghylch mynd i'r toiled ar eu pennau eu hunain.
  • allu golchi a sychu eu dwylo eu hunain.
  • allu ceisio gwisgo ar eu pennau eu hunain, a gallu gwisgo a chau eu cotiau eu hunain.

Paratoi ar gyfer yr ysgol
Paratowch blant ar gyfer eu bywyd newydd yn yr ysgol:

  • ceisiwch eu cael i'r arferiad o dreulio cyfnodau byr heboch chi. Gofynnwch i ffrind neu aelod o'r teulu ofalu amdanynt tra byddwch chi'n mwynhau ychydig o amser ar eich pen eich hun!
  • siaradwch gyda hwy am fynd i'r ysgol. Ewch am dro heibio'r ysgol, ar droed neu yn y car, cyn amled ag y gallwch.
  • holwch beth yw enw athro/athrawes eich plentyn er mwyn i'r plentyn allu adnabod yr enw
  • derbyniwch unrhyw wahoddiadau i ymweld â'r ysgol. Bydd y rhan fwyaf o ysgolion yn trefnu amser i chi a'ch plentyn ymweld a threulio amser yn y dosbarth cyn iddo ddechrau yn yr ysgol.

Ar y diwrnod:

  • ymddiriedwch yn y staff! Os yw'ch plentyn yn dal ei afael ynoch, gadewch i'r staff ddweud wrthych pa bryd i adael, pa mor anodd bynnag yw hi ac ewch oddi yno â gwên ar eich wyneb!
  • dewch i gasglu'ch plentyn yn brydlon - does dim byd gwaeth i blentyn ifanc na chael ei adael ar ôl yn aros pan fo pawb arall wedi mynd adre.


rhan 1 o 2| 1 2  Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Dewis Ysgol
Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Addysg Gartref
Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig
Disgyblaeth yn yr ysgol
Adroddiadau
Llau pen
Gwybodaeth pellach
  • Annog plentyn i ysgrifennu
  • Darllen gyda'ch gilydd
  • Sut mae plant yn dysgu
  • Gwaith cartref

  • Eich profiadau
    Mae canmol a gwobrwyo ymddygiad da yn cael gwell canlyniadau na dim ond dweud y drefn a cheryddu ymddygiad drwg.
    Eich cwestiynau
    A ddylai gwyddoniaeth a mathemateg gael eu dysgu mewn iaith ryngwladol fel Saesneg?
    Perlau

    "Y peth pwysigaf all tad ei wneud dros ei blant yw caru eu mam." - Theodore Hesbury
    Y ffeithiau

    Mae bwlio yn effeithio ar iechyd ac addysg plant - mae 3% o'r dioddefwyr yn gwrthod mynd i'r ysgol; mae 6% wedi eu tynnu o ysgol; ac roedd 1% o'r rhieni'n gweld dim ateb i'r broblem ar wahân i symud ty.


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy