BBC HomeExplore the BBC

IAU
7fed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Y Cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd

1 Y Cwricwlwm Uwchradd
2 Sut mae plant yn cael eu asesu

Y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru

Fframwaith a ddarparwyd gan y Llywodraeth yw'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, a'i bwrpas yw nodi beth mae'n rhaid ei ddysgu i blant yn yr ysgol, a pha bryd. Fe'i bwriadwyd er mwyn darparu sylfaen dda mewn iaith, mathemateg a gwyddoniaeth ac fe'i rhannwyd yn wahanol Gyfnodau Allweddol:

  • Cyfnod Allweddol 3: 11 - 14 oed
  • Cyfnod Allweddol 4: 14 - 16 oed.

Beth yw'r Cwricwlwm Cymreig?

Mae'r Cwricwlwm Cymreig yn rhan o'r cwricwlwm sy'n arbennig i Gymru. Fe'i bwriadwyd er mwyn adlewyrchu hanes, daearyddiaeth a diwylliant Cymru a'ch ardal chi.

Bwriad y Cwricwlwm Cymreig yw i ddatblygu:

  • ymdeimlad o berthyn
  • ymdeimlad o le a threftadaeth
  • ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iaith a llenyddiaeth yn hanes a bywyd Cymru
  • dealltwriaeth o'r celfyddydau creadigol a mynegol yng Nghymru.

Beth sy'n rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol?

Cyfnod Allweddol 3:
Bydd disgyblion yn cael eu profi mewn:

  • Saesneg
  • Cymraeg (iaith gyntaf ac ail iaith)
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth

Y pynciau eraill a astudir yw dylunio a thechnoleg, technoleg gwybodaeth, hanes, daearyddiaeth, iaith dramor fodern, cerddoriaeth, celfyddyd ac addysg gorfforol.

Cyfnod Allweddol 4:

Mae Saesneg, Cymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth ac Addysg Gorfforol yn rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae hyn yn caniatáu i ddisgyblion ddewis pynciau a chyrsiau ychwanegol ar gyfer TGAU neu gymwysterau galwedigaethol.

Rhaid i blant hefyd astudio addysg grefyddol, ac mae'n ofynnol i bob ysgol ddarparu rhywfaint o addysg mewn sgiliau personol a chymdeithasol, addysg ryw, addysg sy'n gysylltiedig â gwaith a chyngor gyrfaol.

Safonau

Rhannwyd pob pwnc yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yn gyfres o lefelau ar raddfa genedlaethol o 1 i 8. Mae'r lefel yn dangos pa safon y mae plentyn wedi ei chyrraedd. Mae lefelau fel grisiau ysgol ac mae plant yn dringo i fyny'r grisiau hyn o'r naill flwyddyn i'r llall.

Ar ddiwedd pob Cyfnod Allweddol, dywedir wrthych ar ba lefel (safon) y mae'ch plentyn yn gweithio yn y pynciau y mae'n eu hastudio. Pan fo'ch plentyn yn 14 oed, asesir y lefel hon gan athrawon a chan ddefnyddio tasgau a phrofion cenedlaethol a elwir yn TASau. Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gweithio o fewn lefelau 3 i 7. Bydd y rhan fwyaf yn cyrraedd lefel 5 neu 6.

Yng Nghyfnod Allweddol 4, pan fo plant yn 16 oed, ni ddefnyddir lefelau'r Cwricwlwm Cenedlaethol er mwyn asesu - yn hytrach, bydd plant yn sefyll arholiadau fel TGAU.


rhan 1 o 2| 1 2  Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Dewis Ysgol
Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Addysg Gartref
Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig
Disgyblaeth yn yr ysgol
Adroddiadau
Llau pen
Gwybodaeth pellach
  • Annog plentyn i ysgrifennu
  • Darllen gyda'ch gilydd
  • Sut mae plant yn dysgu
  • Gwaith cartref

  • Eich profiadau
    Peidiwch ag aros yn rhy hir ar ddiwrnod cyntaf eich plentyn yn yr ysgol - bydd hynny'n gwneud pethau'n anos i chi ac iddyn nhw.
    Eich cwestiynau
    Fydd yr ysgol yn fy ystyried i'n 'rhiant ffyslyd' os ydw i'n gofyn am gael ymweliad yn ystod amser ysgol?
    Perlau

    "Mae magu plant yn parhau i fod yn faes i'r amatur yn bennaf." - Alvin Toffler
    Y ffeithiau

    Mae addysg breifat yn costio o leiaf £128,937, yn ôl ymchwil a wnaed yn 2003. Mae'r swm yn cynnwys cost anfon plentyn i feithrinfa, cost addysg breifat, a chost addysg brifysgol.


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy