BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
12fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Y Cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd

1 Y Cwricwlwm Cynradd
2 Sut mae plant yn cael eu asesu

Y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru

Fframwaith a ddarparwyd gan y Llywodraeth yw'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, a'i bwrpas yw nodi beth mae'n rhaid ei ddysgu i blant yn yr ysgol, a pha bryd. Fe'i bwriadwyd er mwyn darparu sylfaen dda mewn iaith, mathemateg a gwyddoniaeth.

Rhannwyd y Cwricwlwm Cenedlaethol cynradd yn wahanol Gyfnodau Allweddol:

  • Cyfnod Allweddol 1: Blynyddoedd 1 a 2, 5-7 oed.
  • Cyfnod Allweddol 2: Blynyddoedd 3 6, 7-11 oed.

Beth yw'r Cwricwlwm Cymreig?

Mae'r Cwricwlwm Cymreig yn rhan o'r cwricwlwm sy'n arbennig i Gymru. Fe'i bwriadwyd er mwyn adlewyrchu hanes, daearyddiaeth a diwylliant Cymru a'ch ardal chi.

Mae'r Cwricwlwm Cymreig yn helpu i ddatblygu:

  • ymdeimlad o berthyn
  • ymdeimlad o le a threftadaeth
  • ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iaith a llenyddiaeth yn hanes a bywyd Cymru
  • dealltwriaeth o'r celfyddydau creadigol a mynegol yng Nghymru.

Beth sy'n rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol?

Mae amrediad eang o bynciau yn rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ac fe'u rhannwyd yn bynciau craidd a phynciau sylfaen.
Rhoddir pwyslais arbennig ar y pynciau craidd:

  • Saesneg
  • Cymraeg (fel iaith gyntaf)
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth

Pynciau sylfaen:

  • dylunio a thechnoleg
  • technoleg gwybodaeth
  • hanes
  • daearyddiaeth
  • cerddoriaeth
  • celfyddyd
  • addysg gorfforol

Mae'n rhaid i blant hefyd astudio addysg grefyddol yn ôl y maes llafur a nodwyd gan eu hawdurdod lleol. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion hefyd yn darparu addysg bersonol a chymdeithasol.

Safonau
Rhannwyd pob pwnc yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yn gyfres o lefelau ar raddfa genedlaethol o 1 i 8. Mae'r lefel yn dangos pa safon y mae plentyn wedi ei chyrraedd. Mae lefelau fel grisiau ysgol ac mae plant yn dringo i fyny'r grisiau hyn o'r naill flwyddyn i'r llall.

  • Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 1, bydd y rhan fwyaf o blant yn gweithio o fewn lefelau 1 i 3. Bydd y rhan fwyaf yn cyrraedd lefel 2
  • Ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, bydd y rhan fwyaf o blant yn gweithio o fewn lefelau 2 i 5. Bydd y rhan fwyaf yn cyrraedd lefel 4.

Ar ddiwedd pob Cyfnod Allweddol, dywedir wrthych ar ba lefel y mae'ch plentyn yn gweithio mewn iaith, mathemateg a gwyddoniaeth. Asesir y lefelau hyn gan athrawon pan fo plant yn 7 oed, a chan ddefnyddio tasgau a phrofion cenedlaethol (TASau) pan fônt yn 11 oed.


rhan 1 o 2| 1 2  Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Dewis Ysgol
Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Addysg Gartref
Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig
Disgyblaeth yn yr ysgol
Adroddiadau
Llau pen
Gwybodaeth pellach
  • Annog plentyn i ysgrifennu
  • Darllen gyda'ch gilydd
  • Sut mae plant yn dysgu
  • Gwaith cartref

  • Eich profiadau
    Fyddwn i byth wedi meddwl y byddwn i'n helpu yn y dosbarth a finne wedi ymddeol - ond mae'n beth buddiol iawn.
    Eich cwestiynau
    A oes hawl gan yr ysgol i gyfyngu'r dewis ar gyfer pynciau TGAU?
    Perlau

    "Calon y fam yw ystafell ysgol y plentyn." - Henry Ward Beecher
    Y ffeithiau

    Mae tua 2,000 o ysgolion yng Nghymru, ac mae'r hanner miliwn o ddisgyblion sydd ynddynt yn cael eu dysgu gan 28,000 o athrawon. Dim ond 2% o'r ysgolion hyn sy'n ysgolion a gynhelir.


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy