BBC HomeExplore the BBC

IAU
17eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig

1 Beth yw anghenion arbennig?
2 Asesu'ch plentyn
3 Beth yw Dyspracsia?

4 Beth yw ADHD AC ADD?

Beth yw anghenion addysgol arbennig?

Mae hyd at 20% o'n plant a'n pobl ifanc yn profi anghenion addysgol arbennig (AAA) ar ryw adeg yn eu haddysg. Yn gyffredinol, mae plentyn sydd ag 'AAA' yn cael anhawster gyda dysgu o gymharu â'r rhan fwyaf o'r plant sydd yr un oed ag ef.

Defnyddir AAA weithiau hefyd i ddisgrifio plentyn sydd ag anabledd sy'n ei gwneud yn anodd iddo ddefnyddio'r cyfleusterau addysgol y mae plant eraill o'r un oed yn eu defnyddio - os oes ganddo nam ar ei olwg, efallai, er enghraifft, nad yw'n gallu dygymod mewn dosbarth prif ffrwd, a rhaid gwneud darpariaeth 'arbennig' ar eu cyfer.

Gall plant o unrhyw oedran fod ag AAA. Nid yw Cod Ymarfer AAA Cymru'n rhoi plant mewn categorïau pendant o angen arbennig, ond edrychir ar bob plentyn fel unigolyn. Er hyn, mae'n debyg y bydd anghenion arbennig plant yn perthyn i un neu ragor o'r pedwar maes cyffredinol isod:

  • cyfathrebu a rhyngweithio anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu
  • dirnadaeth a dysgu anawsterau dysgu sy'n amrywio o ganolig i ddwys
  • ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol - mae hyn yn cynnwys amrediad o ymddygiadau gwahanol gan gynnwys pethau fel mynd i gragen, aflonyddu, gorfywiogrwydd, methu canolbwyntio a diffyg sgiliau cymdeithasol
  • synhwyrol, corfforol neu feddygol yn cynnwys anawsterau sy'n gysylltiedig â nam ar y golwg neu'r clyw ac anableddau corfforol eraill.

Pwy all helpu?

anghenion arbennigMae gan bob plentyn hawl i gael sylw i'w anghenion addysgol. Rhaid i Awdurdodau Addysg Lleol, ysgolion a darparwyr cyn-ysgol, rhieni, disgyblion, y gwasanaeth iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill, i gyd weithio gyda'i gilydd er mwyn ceisio darparu'r gwasanaeth priodol i bob plentyn.

Ffynonellau cymorth a gwybodaeth:

  • Awdurdodau addysg lleol: Maent yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ganfod ac asesu anghenion plentyn, a sicrhau'r ddarpariaeth addysgol briodol ar eu cyfer. Rhaid iddynt wneud yn siwr bod cyngor a gwybodaeth yn cael eu cynnig i riant unrhyw blentyn sydd ag AAA. Gallant wneud hyn eu hunain, neu 'brynu' 'gwasanaeth partneriaeth â rhieni' gan ddarparwr arall, fel mudiad gwirfoddol (elusen).

    Rhaid i'r AALl gyhoeddi ei bolisi ar blant sydd ag AAA, a gallwch ofyn i'r awdurdod anfon copi atoch. Rhaid iddo hefyd wneud popeth sydd yn ei allu i atal a datrys anghytundeb rhwng rhieni a'r awdurdod ei hun ynghylch y ffordd y mae ef a'r ysgolion yn ymgymryd â'u cyfrifoldebau mewn perthynas â phlant sydd ag AAA.

  • Ysgol eich plentyn (neu ddarparwr blynyddoedd cynnar fel ysgol feithrin): Mae'n debyg mai dyma'ch ffynhonnell gyntaf er mwyn cael cymorth a chyngor. Bydd yr ysgol yn dweud wrthych os oes ganddynt unrhyw bryderon ynghylch cynnydd addysgol eich plentyn, ac yn dweud wrthych os oes darpariaeth AAA yn cael ei gwneud ar gyfer y plentyn. Ar y dechrau, bydd y ddarpariaeth a wneir ganddynt yn rhan o drefniadau cyffredinol yr ysgol ar gyfer unrhyw blentyn nad yw'n gwneud y cynnydd a ddisgwylir.

    Rhaid i bob ysgol/darparwr blynyddoedd cynnar gyhoeddi polisi ar AAA, a chael trefniadau ar gyfer nodi a rhoi sylw i anghenion arbennig plant. Mae cyrff llywodraethol ysgolion yn dynodi llywodraethwr i oruchwylio trefniadau'r ysgol ar gyfer cwrdd ag anghenion addysgol arbennig. Yn flynyddol o leiaf, rhaid i'r corff llywodraethol gyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch effeithiolrwydd gwaith yr ysgol ar gyfer disgyblion gydag AAA.

  • Cydlynwyr anghenion addysgol arbennig: Y Cydlynwyr hyn sydd â chyfrifoldeb dydd-i-ddydd am blant AAA mewn ysgol, a gofynnir iddynt helpu os oes ar blentyn angen mwy na'r cymorth ychwanegol mwyaf elfennol.


  • rhan 1 o 4| 1 2 3 4  Yn ôl i'r top
    Yn yr adran hwn
    Dewis Ysgol
    Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
    Addysg Gartref
    Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd
    Y cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd
    Y cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd
    Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig
    Disgyblaeth yn yr ysgol
    Adroddiadau
    Llau pen
    Gwybodaeth pellach
  • Annog plentyn i ysgrifennu
  • Darllen gyda'ch gilydd
  • Sut mae plant yn dysgu
  • Gwaith cartref

  • Eich profiadau
    Peidiwch ag aros yn rhy hir ar ddiwrnod cyntaf eich plentyn yn yr ysgol - bydd hynny'n gwneud pethau'n anos i chi ac iddyn nhw.
    Eich cwestiynau
    Pa gyfrifiadur ddylwn i ei brynu ar gyfer fy mhlant?
    Perlau

    "Mae plant yn farbariaid afieithus." - Joseph Morgenstern
    Y ffeithiau

    Mae bron un o bob pum ysgol gynradd yn defnyddio Cymraeg fel yr unig gyfrwng neu'r prif gyfrwng ar gyfer dosbarthiadau. Ac mae 14% o'r plant ysgol rhwng 7 ac 11 oed yn dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf.


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy