BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
1af Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Adroddiadau

1 Adroddiadau
2 Nosweithiau rhieni
3 Cyflwyno cwyn

Adroddiadau

Yr adroddiad ysgol hwnnw roedd pob un ohonom ni'n ei ofni. Roedd rhai ohonom yn casáu mynd â'r adroddiad gartref i'n rhieni! Ond mae'r adroddiad yn ffordd bwysig iawn o sicrhau eich bod yn gwybod sut mae'ch plentyn yn dod yn ei flaen yn yr ysgol.

Byddwch yn derbyn o leiaf un adroddiad ysgrifenedig am eich plentyn yn ystod pob blwyddyn ysgol. Dylai gynnwys gwybodaeth sylfaenol am gynnydd eich plentyn. Y pennaeth sydd i benderfynu a fydd yr adroddiad yn cynnwys mwy na'r wybodaeth sylfaenol hon. Y pennaeth hefyd sy'n penderfynu pa bryd i anfon yr adroddiadau (ond mae'n rhaid i rieni dderbyn y wybodaeth cyn diwedd tymor yr haf). Os yw'ch plentyn yn 18 oed neu drosodd bydd yr adroddiad yn cael ei anfon yn uniongyrchol ato ef/ati hi, ac nid atoch chi.

Beth ddylai adroddiad eich plentyn ei ddweud wrthych chi?
Yn gyfreithiol, rhaid i adroddiadau blynyddol disgyblion roi gwybodaeth sylfaenol i chi am gynnydd eich plentyn:

  • cynnydd cyffredinol yn ystod y flwyddyn
  • cynnydd ym mhynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n cael eu hastudio
  • cynnydd ym mhob pwnc a gweithgaredd arall gan gynnwys addysg grefyddol
  • cofnod presenoldeb.

Rhaid i'r adroddiad hefyd gynnwys trefniadau i chi drafod yr adroddiad gyda'r athrawon. Mae hwn yn gyfle na ddylid ei golli.

Beth sy'n digwydd ar ddiwedd pob Cyfnod Allweddol?

Mae angen i adroddiadau ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 gynnwys gwybodaeth ychwanegol am ganlyniadau'r profion cenedlaethol. Os yw'ch plentyn wedi gwneud y profion cenedlaethol ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 neu 3 rhaid i'w adroddiad gynnwys:

  • canlyniadau ei brofion
  • crynodeb o'r canlyniadau ar gyfer yr holl blant sydd yn yr un grwp oedran yn yr ysgol, er mwyn i chi allu cymharu canlyniadau'ch plentyn gyda'r darlun cyffredinol
  • crynodeb o ganlyniadau cenedlaethol y flwyddyn flaenorol er mwyn i chi allu eu cymharu.

Rwdl-mi-ri!

Mae athrawon hefyd yn gallu mynd dros ben llestri gyda jargon! Ond fe ddylent osgoi defnyddio jargon felly os oes unrhyw beth yn adroddiad eich plentyn nad ydych yn ei ddeall, gwnewch yn siwr eich bod yn holi'r athro/athrawes yn ystod y noson rieni. Fe welwch nad yw unrhyw dermau anghyfarwydd hanner mor gymhleth ag y maent yn ymddangos ar yr olwg gyntaf.


rhan 1 o 3| 1 2 3  Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Dewis Ysgol
Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Addysg Gartref
Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig
Disgyblaeth yn yr ysgol
Adroddiadau
Llau pen
Gwybodaeth pellach
  • Annog plentyn i ysgrifennu
  • Darllen gyda'ch gilydd
  • Sut mae plant yn dysgu
  • Gwaith cartref

  • Eich profiadau
    Mae canmol a gwobrwyo ymddygiad da yn cael gwell canlyniadau na dim ond dweud y drefn a cheryddu ymddygiad drwg.
    Eich cwestiynau
    Fydd yr ysgol yn fy ystyried i'n 'rhiant ffyslyd' os ydw i'n gofyn am gael ymweliad yn ystod amser ysgol?
    Perlau

    "Mae gorfoleddau rhieni yn gyfrinachol, fel y mae eu gofidiau a'u hofnau." - Francis Bacon
    Y ffeithiau

    Yn 2001, cafodd myfyrwyr Cymru ganlyniadau gwell ar y cyfan mewn Mathemateg Cyfnod Allweddol 1 a Saesneg Cyfnod Allweddol 2, nag unrhyw ranbarth yn Lloegr.


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy