BBC HomeExplore the BBC

IAU
31ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Addysg Gartref

1 Addysg Gartref

Does dim rhaid i blant fynd i'r ysgol. Yr hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith yw eu bod yn cael addysg briodol ac mae llawer o rieni'n argyhoeddedig mai'r ffordd orau o ddarparu hyn yw drwy ddysgu eu plant gartref.

Mae rhai rhieni'n teimlo bod eu plant yn methu â dygymod â bywyd cythryblus yr ysgol; mae eraill yn dysgu plant gartref gan eu bod yn meddwl bod addysg arferol mewn ysgol yn ffordd ddigalon, ddi-fflach ac aneffeithlon o addysgu plant.

Nid oes cofrestr swyddogol ar gyfer plant sy'n cael eu haddysgu gartref, felly mae'n amhosib dweud faint yn union sydd yn y DU. Mae'r amcangyfrifon yn amrywio o ffigwr ceidwadol y Llywodraeth o 25,000 i nifer anhygoel o 150,000 - hynny yw, 1% o'r boblogaeth oed ysgol. Yn ôl un adroddiad gan y BBC, mae addysg gartref yn dod yn fwy a mwy poblogaidd yng Nghymru.

Gan fod y rhyngrwyd bellach yn cynnig amrediad cynyddol o adnoddau addysgol sydd gystal bob tamaid â'r rhai sydd ar gael mewn ysgolion, bydd llawer mwy o rieni'n cael eu temtio i ddysgu eu plant gartref. Cyn gwneud y penderfyniad hwnnw, bydd angen iddynt feddwl o ddifrif, am y manteision amlwg, a hefyd am yr anfanteision difrifol.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth, ymwelwch â gwefannau sefydliadau amrywiol sy'n ymwneud ag addysg gartref.

Manteision addysg gartref

Mae plant sy'n cael eu haddysgu gartref

  • yn cael llawer mwy o sylw unigol nag y byddent yn ei gael mewn dosbarth arferol
  • yn gallu dysgu ar eu cyflymder eu hunain, a dilyn eu diddordebau eu hunain, heb gael eu llyffetheirio gan y Cwricwlwm Cenedlaethol, gan nad yw'n ofynnol i blant sy'n cael addysg gartref ei ddilyn.

Mae'r rhai sydd o blaid addysg gartref yn dweud bod hyn yn golygu bod plant yn fwy brwdfrydig a bod ganddynt fwy o hunanddisgyblaeth. Dengys gwaith ymchwil a wnaethpwyd ym Mhrifysgol Durham bod plant hefyd yn debygol o wneud cynnydd academaidd llawer gwell na'u cyfoedion sy'n mynychu ysgolion cyffredin. Mewn erthygl yn y Times Educational Supplement, mae rhieni'n amlinellu rhai o'r manteision eraill.

Anfanteision addysg gartref

Mae beirniaid addysg gartref yn poeni

  • y bydd plant yn colli'r cyfleoedd a geir yn yr ysgol i ryngweithio â'u cyfoedion a datblygu sgiliau cymdeithasol
  • na fydd rhieni'n ymwybodol o'r datblygiadau addysgol diweddaraf
  • na fydd plant yn gallu manteisio ar labordai, campfeydd ac adnoddau eraill sydd mewn ysgolion
  • na fydd ehangder addysg plant a'u cynnydd yn cael ei fonitro'n ddigonol - yn enwedig gan nad yw'n rhaid iddynt ddilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol na gwneud TASau.

Cyngor gan yr Adran Addysg a Sgiliau - Canllawiau'r Llywodraeth

Sefydliadau
Home Education sy'n cynnwys llawer o adnoddau a dolenni cyswllt i fynd i dudalennau eraill.
Education Otherwise - sy'n cael yr enw gan fod y Ddeddf Addysg yn dweud bod yn rhaid i blant gael addysg "naill ai drwy fynychu ysgol yn rheolaidd neu mewn ffordd arall."
Gwasanaeth Ymgynghorol Addysg Gartref sy'n cynnig cylchlythyr chwarterol a llinell gyngor, ymhlith pethau eraill, i danysgrifwyr.
Ar gyfer rhieni sydd â diddordeb mewn dod ag adnoddau at ei gilydd er mwyn sefydlu eu hysgol anffurfiol eu hunain:

Human Scale Education Cyhoeddiad misol annibynnol ar gyfer addysgwyr cartref.

Llyfrau defnyddiol
Free Range Education - how home education works, Golygwyd gan Terri Dowty, £12.99 Hawthorn Press

Learning Unlimited, Roland Meighan, £7.95 Educational Heretics Press

Doing It Their Way, Jan Fortune-Wood, £11.95 Educational Heretics Press

Darllennwch brofiad Tracey Griffiths o addysg gartref.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 1 o 1| 1  Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Dewis Ysgol
Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Addysg Gartref
Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig
Disgyblaeth yn yr ysgol
Adroddiadau
Llau pen
Gwybodaeth pellach
  • Annog plentyn i ysgrifennu
  • Darllen gyda'ch gilydd
  • Sut mae plant yn dysgu
  • Gwaith cartref

  • Eich profiadau
    Peidiwch ag aros yn rhy hir ar ddiwrnod cyntaf eich plentyn yn yr ysgol - bydd hynny'n gwneud pethau'n anos i chi ac iddyn nhw.
    Eich cwestiynau
    Ar gyfer beth y dylai arian poced fod?
    Perlau

    "Gofynnwch i'r ifanc, mae'n nhw'n gwybod popeth." - Joubert
    Y ffeithiau

    Bydd cynifer â 3,000 o blant yn colli ysgol bob diwrnod yng Nghymru. Dangosodd arolwg diweddar fod bron i 80% o driwantiaid yn aros adref â chymeradwyaeth eu rhieni.


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy