BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
16eg Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Llywodraethwyr

1 Bod yn llywodraethwr ysgol

Gallwch gyfrannu arbenigedd i ysgol eich plentyn mewn sawl ffordd, ond un o'r rhai pwysicaf a mwyaf cyfrifol a'r un sy'n gofyn am yr ymrwymiad mwyaf yw bod yn llywodraethwr.

Beth mae llywodraethwyr ysgol yn ei wneud?

Tîm o bobl sy'n gweithio mewn cysylltiad agos â'r pennaeth i wneud penderfyniadau allweddol sy'n bwysig er mwyn rhedeg yr ysgol yn llwyddiannus yw llywodraethwyr ysgol. Y llywodraethwyr sy'n penodi'r pennaeth ac maent yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar addysg a lles y plant. Maent yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella safonau drwy'r ysgol ac yn cytuno ar gyllideb yr ysgol. Mewn geiriau eraill, mae'n rôl bwysig iawn!

Sut alla i ddod yn rhiant lywodraethwr?

Os yw'ch plentyn yn mynychu ysgol, gallwch gael eich ethol yn rhiant lywodraethwr gan y rhieni. Mae ysgolion yn trefnu'r etholiadau hyn, ac yn rhoi gwybod amdanynt i'r rhieni a'r staff. Gallwch hefyd ddod yn llywodraethwr drwy gysylltu â'r ysgol er mwyn gweld a fyddent yn fodlon eich cyfethol neu drwy ofyn i'r awdurdod lleol, yr eglwys neu sefydliad a fyddent yn eich penodi.

Beth sydd gen i i'w gynnig?

Fel rhiant lywodraethwr, gallwch wneud cyfraniad gwerthfawr i'r gwaith o redeg yr ysgol. Byddwch yn gallu cynnig eich brwdfrydedd a'ch ymroddiad ac fel rhiant, byddwch yn deall pryderon rhieni eraill. Gall llywodraethwyr sydd â phrofiad o fusnes neu reolaeth, neu lu o sgiliau eraill, hefyd gynnig arbenigedd defnyddiol iawn i'r ysgol.

Beth fyddaf i'n ei gael yn ôl?

Gall bod yn llywodraethwr ysgol fod yn brofiad sy'n rhoi llawer iawn o foddhad. Byddwch yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella addysg y plant a chefnogi staff yr ysgol, ac mae rhoi llawer i'r ysgol a'r gymuned fel arfer yn golygu y byddwch yn cael llawer yn ôl. Mae bod yn llywodraethwr hefyd yn gyfle i ddatblygu sgiliau newydd neu ymarfer rhai sydd gennych yn barod a all eich helpu yn eich swydd o ddydd i ddydd, fel cadeirio cyfarfodydd, cynnig awgrymiadau a gofyn y cwestiynau iawn, siarad yn gyhoeddus, penodi staff, a helpu aelodau eraill sy'n newydd i'r gwaith neu sydd â llai o brofiad o waith pwyllgor.

Faint o amser mae'n ei gymryd?

Mae'r amser y mae llywodraethwyr yn gallu ei roi i'r rôl yn amrywio ond mae rhai pethau y mae'n rhaid iddynt allu eu gwneud, felly dylech fod yn ymwybodol o'r canlynol:

  • rhaid i'r corff llywodraethol gyfarfod o leiaf unwaith y tymor
  • mae'n debyg y disgwylir i lywodraethwyr wasanaethu ar o leiaf un pwyllgor a fydd yn cyfarfod yn amlach na hynny
  • cynhelir cyfarfodydd, ambell waith yn ystod y dydd, ond gan amlaf gyda'r nos
  • mae'n ofynnol i lywodraethwyr baratoi ar gyfer cyfarfodydd ac mae'n bosib y bydd llawer o bapurau i'w darllen
  • ni fydd person nad yw'n gallu paratoi ar gyfer cyfarfodydd a'u mynychu yn gallu gwneud cyfraniad effeithiol.

Os ydych yn meddwl y byddech yn hoffi cael mwy o wybodaeth am y pwnc, edrychwch ar rai o'r cysylltiadau gwe, a chysylltwch â'r ysgol.

Gwefannau defnyddiol:
Canolfan llywodraethwyr ysgol yr Adran Addysg a Sgiliau.

Gwefan Cyngor Cenedlaethol y Llywodraethwyr.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


rhan 1 o 1| 1  Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Gwirfoddolwyr dosbarth
Y Gymdeithas Rieni ac Athrawon
Bod yn llywodraethwr ysgol
Hoffech CHI ddysgu?
Gwybodaeth pellach
  • Adroddiadau
  • Dewis Ysgol
  • Disgyblaeth yn yr ysgol

  • Eich profiadau
    Fel cynorthwy-ydd dosbarth mae gen i fwy o gyfle i gael perthynas un-i-un gyda phlant.
    Eich cwestiynau
    Ydy llywodraethwyr ysgol yn cael eu talu, a faint o amser bydd angen i mi ei roi fel llywodraethwr ysgol?
    Perlau

    "Mae angen cariad ar blant, yn enwedig pan nad ydynt yn ei haeddu." - Harold S. Hilbert
    Y ffeithiau

    Yn 2000-2001, cafodd 430 o blant eu gwahardd yn barhaol o ysgolion Cymru.


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy