BBC HomeExplore the BBC

MAWRTH
29ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Llywodraethwr Ysgol


C: Sut allaf i ddod yn lywodraethwr ysgol?

A: Gallwch fynd yn lywodraethwr ysgol drwy:

  • gael eich ethol gan rhieni fel rhiant lywodraethwr, os yw'ch plentyn yn mynychu'r ysgol;
  • gael eich ethol gan y staff dysgu neu'r staff nad ydynt yn dysgu, os ydych yn aelod o'r staff dysgu neu'r staff nad ydynt yn dysgu;
  • gael eich ethol gan yr awdurdod addysg lleol;
  • gael eich apwyntio gan yr eglwys neu'r ymddiriedolaeth elusennol;
  • gael eich apwyntio'n gyfetholedig gan y llywodraethwyr eraill. I fynd yn lywodraethwr, bydd angen i chi sicrhau fod y rheiny sy'n pleidleisio, neu sy'n apwyntio pobl, yn ymwybodol o'ch diddordeb.
  • Mae ysgolion yn trefnu etholiadau ac yn hysbysu rhieni a staff amdanynt, felly gofynnwch i'r ysgol os oes angen llywodraethwyr arnynt ar hyn o bryd.
  • Gofynnwch i'r awdurdod addysg lleol, eglwys neu'r sefydliad perthnasol i'ch apwyntio chi.

C: Ydy llywodraethwyr ysgol yn cael eu talu?

A: Nac ydyn, ond mae 'na reolau newydd yn cael eu cyflwyno ar 1 Fedi 2003, yn caniatáu i lywodraethwyr hawlio costau. Gall llywodraethwyr hawlio costau teithio a chostau eraill drwy gyflwyno derbynneb ar raddfa sy'n cael ei bennu gan y corff llywodraethol.

Mae cyrff llywodraethol hefyd yn medru ad-dalu costau eraill, er enghraifft, cost gofalu am berthnasau dibynnol pan fo chi'n mynychu cyfarfodydd.

C: Beth os yw fy nghyflogwr yn gwrthod rhoi amser i ffwrdd i mi?

A: Mae nifer o gyflogwyr yn annog eu staff i fod yn lywodraethwyr. Maent yn gwerthfawrogi bod unigolion yn dysgu sgiliau gwerthfawr sy'n ddefnyddiol ar gyfer y gweithle drwy wirfoddoli fel llywodraethwr. Felly mae rhai cyflogwyr yn rhoi amser i ffwrdd gyda thâl i staff sy'n gweithredu ar gyrff llywodraethol.

Os yw'ch cyflogwr yn anfodlon, cofiwch fod y gyfraith yn caniatáu i chi gael amser rhesymol i ffwrdd heb dâl.


C: Faint o amser bydd angen i mi ei roi fel llywodraethwr ysgol?

A: Mae llywodraethwyr yn gweithredu fel tîm ac felly mae'r ymrwymiad amser yn amrywio gan ddibynnu ar rôl a chyfrifoldebau'r unigolyn.
Bydd rhai pobl yn medru rhoi tipyn o'u hamser - bydd eraill, yn enwedig rhieni efallai, yn gweld fod yr amser mae'n nhw'n gallu ei roi yn dibynnu ar gyfrifoldebau eraill.

Cyn ymrwymo i fod yn lywodraethwr, gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod faint o gyfarfodydd bydd angen i chi fynychu a phryd y'u cynhelir nhw.

A chofiwch, fel llywodraethwr, bydd rhaid i chi:

  • baratoi ar gyfer cyfarfodydd: fel arfer mae 'na nifer o bapurau i'w darllen;
  • allu mynychu cyfarfodydd: rhaid i'r corff llywodraethol gyfarfod o leiaf unwaith y tymor, ond mwy na thebyg bydd rhaid i chi eistedd ar fwy nag un pwyllgor. Nid yw'n anarferol i un bwyllgor gyfarfod pob hanner-tymor, ond mae hynny'n amrywio ac mae'n bosib bydd y pwyllgor yn cyfarfod yn fwy aml;
  • allu mynychu cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal yn y bore neu'r prynhawn, er fod y rhan fwyf o gyfarfodydd yn digwydd yn y nosweithiau;
  • baratoi a chymryd rhan. Os na allwch chi baratoi ar gyfer, yn ogystal â mynychu, cyfarfodydd, ni allwch chi helpu'r ysgol yn effeithlon.

Yn yr adran hwn
Cymorth gartref
Teuluoedd Dwyieithog
Oedi ieithyddol
Dysgu darllen
Darllenwyr anfoddog
Arian poced
Pa gyfrifiadur?
Yn yr ysgol
Dewis Ysgol
Dewis Pynciau
Dysgu'n ddwyieithog yn yr ysgol
Dysgu gwyddoniaeth a mathemateg
Disgyblaeth
Cosbi yn yr ysgol
Gwaharddiad
Triwantiaeth
Problemau yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Cynorthwy-ydd dosbarth
Datblygu o fod yn gynorthwywr dosbarth i fod yn athro
Sut allaf i fynd yn athro?
Cymorth Ariannol
Llywodraethwr Ysgol
Rhinweddau llywodraethwr
Corff Llywodraethol Ysgol


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy