BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
Gât yr ysgol
Cymorth gartref
Yn yr ysgol
Helpu’r ysgol
Eich profiadau
Eich cwestiynau
A - Y

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cymorth gartref Yn yr ysgol Helpu’r ysgol Eich profiadau Eich cwestiynau
Annog i Ysgrifennu

1 Annog plant i ysgrifennu
2 Ysgrifennu'n well

Sut alla i annog fy mhlentyn i ysgrifennu?

Ysgrifennwch eich hun! Dangoswch esiampl drwy adael i'ch plentyn eich gweld chi'n ysgrifennu llythyrau, ffurfiol ac anffurfiol, yn llenwi ffurflenni a hyd yn oed yn gwneud rhestr siopa. Cynhwyswch eich plant yn yr holl weithgareddau dyddiol hynny sydd angen cyfathrebu ysgrifenedig. Gadewch iddynt ychwanegu rhywbeth at lythyrau rydych yn eu hysgrifennu at berthnasau a ffrindiau. Efallai fod ysgrifennu stori fer wedi bod yn uchelgais i chi? Rhowch gynnig arni. Darllenwch y stori i'ch plant i gael gweld beth maent yn ei feddwl ohoni. Gadewch iddynt weld bod gwneud newidiadau'n gallu ei gwella.

Gall pethau syml wneud ysgrifennu'n haws ac yn fwy pleserus:

  • Gwnewch yn siwr fod gennych le da i'ch plentyn ysgrifennu - desg neu fwrdd gydag arwyneb gwastad a digon o olau.
  • Gwnewch yn siwr fod gennych ddigon o ddeunyddiau - beiros a phensiliau o wahanol fath a lliw, darnau o bapur, dyddiadur i'w gadw, papur ysgrifennu deniadol ac amlenni. Ar gyfer plant hŷn mae dyddiadur a thesawrws yn ddefnyddiol.
  • Rhowch ddigon o amser iddynt ysgrifennu - yn aml iawn mae pobl angen llawer o amser i feddwl, felly byddwch yn amyneddgar!
  • Ymatebwch i'r hyn a ysgrifennir gan eich plentyn. Canolbwyntiwch ar yr hyn y maent wedi ei ysgrifennu, yn hytrach na sut y maent wedi ei ysgrifennu. Canolbwyntiwch ar y cynnwys, yn hytrach na gramadeg, sillafu neu lawysgrifen.
  • Canmolwch eich plentyn - dywedwch rywbeth cadarnhaol am yr hyn y mae wedi ei ysgrifennu.
  • Anogwch eich plentyn i ysgrifennu pwt bach neu ddyddiadur personol - nid bob diwrnod, o reidrwydd, ond efallai pan fo rhywbeth arbennig wedi digwydd yn ystod y gwyliau. Anogwch ef/hi i ysgrifennu cardiau post a llythyrau yn diolch i berthnasau am anrhegion, i ysgrifennu rhestrau, neu i gopïo hoff gerddi neu eiriau caneuon.
  • Os ydynt yn hoffi tynnu lluniau neu wneud collages, anogwch hwy i gyfuno ysgrifennu â'u lluniau, efallai'n disgrifio'r llun y maent wedi ei wneud, neu ddweud stori a gwneud llun i fynd gyda'r stori.
  • Cyhoeddi eu gwaith.


rhan 1 o 2| 1 2  Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Ymddygiad - eich dylanwad chi
Annog diddordebau
Mae'n werth siarad
Sut mae plant yn dysgu
Annog plant i ysgrifennu
Darllen gyda'ch gilydd
Helpu gyda gwaith cartref
Plant ar y rhyngrwyd
Arian poced
Rhyw a chyffuriau
Gwybodaeth pellach
  • Addysg gartref
  • Dewis ysgol
  • Dechrau ysgol

  • Eich profiadau
    Dw i'n defnyddio'r rhyngrwyd i helpu gyda adolygu - does neb yn chwerthin os ydych chi'n cael atebion yn anghywir.
    Eich cwestiynau
    Pa gyfrifiadur ddylwn i ei brynu ar gyfer fy mhlant?
    Perlau

    "I ddeall cariad rhiant mae'n rhaid i chi fagu plant eich hun." - Dihareb Tsieineaidd
    Y ffeithiau

    Yn ystod tymhorau'r ysgol, gall plant weithio am fwyafswm o ddwy awr ar ddiwrnodau ysgol a dydd Sul, a mwyafswm o bum awr (pobl ifanc 13-14 oed) neu wyth awr (pobl ifanc 15-16 oed) ar ddydd Sadwrn.


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy