Nid darparu prydiau bwyd byth a beunydd a gwasanaeth golchi dillad yw'ch unig rôl - chi yw hefyd y person mwyaf dylanwadol a phwysig ym mywyd eich plentyn. Dim pwysau!
Chi yw'r un sydd yn y sefyllfa orau i siarad a rhoi sylw unigol i'ch plentyn, yn ogystal ag i wybod beth sy'n ei diddori nhw - ac yn gwneud iddyn nhw chwerthin.
Wedi'r cyfan, plant hapus a chytbwys yw dymuniad pob rhiant - ond sut allwch chi sicrhau fod eich plentyn yn ffynnu?
Mae angen help ar bob rhiant, hyd yn oed y rhai mwyaf profiadol - ac mae cymorth yn y cartref i chi yma.
Fel arfer rwy'n treulio tua awr y diwrnod ar y cyfrifiadur - mae gen i lawer o waith cartref i'w wneud.
"Pibell faith gyda llais uchel ar un pen a dim cyfrifoldeb ar y pen arall yw babi." - Ronald Knox
Mae dros 75% o bobl sy'n cerdded eu plant i'r ysgol yn dweud eu bod wedi gwneud ffrindiau wrth gat yr ysgol, gyda mwy na 61% yn trefnu gofal plant gyda rhieni y bu iddynt gyfarfod drwy'r ysgol.