YNE

YNE
Un o nifer o raglenni newyddion i bobl ifanc ydy Ffeil. Mi fydd llawer ohonoch chi'n gyfarwydd â Newsround, ond a wyddost ti fod 'na o leia 10 rhaglen arall debyg i Ffeil mewn rhannau eraill o Ewrop?
Yn yr Iseldiroedd mae Jeugdjournaal ar y teledu saith diwrnod yr wythnos, ac enw'r rhaglen yn yr Almaen ydy Logo. Mae gan yr Eidal, Sweden, Catalwnia, Ffrainc, y Ffindir, Romania, Awstria ac Iwerddon bob un ei rhaglen ei hun, ac yng Ngwlad Belg mae 'na ddwy - un i blant sy'n siarad Fflemeg a'r llall i blant sy'n siarad Ffrangeg. Y tu allan i Ewrop, mae Canada hefyd yn perthyn i'r clwb.
Bob dydd bydd y rhaglenni hyn yn siarad â'i gilydd mewn cyfarfod ffôn. Yn ystod y cyfarfod byddan nhw'n trafod syniadau weithiau, ond ei brif bwrpas ydy rhoi cyfle i raglenni gynnig straeon difyr sydd wedi codi yn eu gwlad nhw.
Ambell waith bydd Ffeil yn rhoi gwybod iddyn nhw am stori ddiddorol yng Nghymru ac yn anfon lluniau a chyfweliadau atyn nhw ar y lloeren. Dro arall bydd Ffeil yn derbyn lluniau gan wlad arall. Mae hyn yn ein helpu i gyfnewid straeon o wahanol rannau o Ewrop ac mae'n golygu bod yr iaith Gymraeg yn cael ei chlywed ar hyd a lled Ewrop. Pwy a wyr, efallai y caiff un o'ch straeon chi ei gweld yn Iwerddon, Sweden neu'r Iseldiroedd yn y dyfodol!
|
|