 |
 |
 |
Catrin Heledd Catrin Heledd |
 |
 |
 |
ENW Catrin Heledd
LLYSENW Cats, Cathel, Tomi!
CARTREF Pentyrch, Caerdydd
YSGOL Ysgol Gynradd y Creigiau, Ysgol Gyfun Llanhari
BRODYR/CHWIORYDD Un chwaer hŷn - Sara Esyllt sydd hefyd yn gweithio i'r un adran newyddion! Ni'n agos iawn!
HOFF LIW Glas
HOFF FWYD Bwyd eidalaidd a hufan iâ!! Dwi'n cael gwersi cwcan ar hyn o bryd!
HOFF SELEB Alan Fletcher - Karl Kennedy o Neighbours - Dwi di cwrdd a fe!!!
HOFF LYFR Un Noson Dywyll - T.Llew Jones
<
HOFF GÂN Unrhywbeth sy'n 'neud i fi ddawnsio fel Girls Aloud neu Scissor Sisters... ond dwi wrth fy modd gyda Huw Chiswell!
HOFF LE Aberystwyth - Ma' gen i atgofion da o ddyddiau coleg
FFAITH DDIDDOROL AMDANAT TI Dwi'n dal i sugno fy mawd!!
SUT WYT TI'N HOFFI TREULIO DY AMSER HAMDDEN? Yn chwarae pêl rwyd, nofio, mynd i'r sinema ac ma' Owain a fi wrth ein boddau yn mynd i chwarae bingo!
SUT FASET TI'N TREULIO DY DDIWRNOD PERFFAITH? Cysgu'n hwyr a chael mam i ddod a phaned o de a sws i fi'n y gwely! Gwylio chydig o deledu! Wedyn mynd am ginio gyda ffrindiau ....a wedyn mas i ddawnsio!
BETH WYT TI'N EI FWYNHAU FWYAF AM WEITHIO AR FFEIL? Cael mynd allan ar draws Cymru i gwrdd â phobl ifanc....a gweithio gyda'r tîm achos yn ni'n cael lot o hwyl!
TRI PHETH NA ALLET TI FYW HEBDDYN NHW A PHAM? Fy ffôn symudol (dwi'n tecstio o hyd) fy nheulu a fy ffrindiau a NEIGHBOURS!
BETH SY'N CODI OFN ARNAT TI? Pry cop! Alla i ddim diodde nhw
BETH SY'N GWNEUD ITI GOCHI? Dwi'n gallu bod braidd yn dwp weithiau (yn ôl fy ffrindiau!)
BETH SY'N GWNEUD ITI CHWERTHIN? Gwylio You've Been Framed! Dwi wrth fy modd yn gweld pobl yn cwympo drosodd!
UCHELGAIS Bod a gwên ar fy wyneb bob dydd!!!
 |
 |
 |
 |
|
|