BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
2il Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ffeil

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Ffeil


Y Tîm
Y Rhaglen
Newyddion
Cefndir
E-Gardiau
Ffrindiau Ffeil
Negeseuon
Pobol y Penawdau
YNE

Cwis
Y Sîn

Radio Cymru

Planed Plant

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Y Tim Y Rhaglen

Dechreuodd Ffeil ym mis Medi 1995 a hon ydy'r unig raglen newyddion Gymraeg i bobl ifanc. Gelli di wylio Ffeil o ddydd Llun i ddydd Gwener am 1650 yn ystod Planed Plant ar S4C.

Mae 'na bump o bobl yn gweithio drwy'r amser ar y tîm. Rwyt ti'n gweld Owain, Karen, Catrin a Jason ym mhob rhaglen, ond dim ond clywed llais Mererid fyddi di. Mererid sy'n cynhyrchu'r rhaglen a'u gwaith hi yw penderfynu pa straeon newyddion sy'n cael mynd ar Ffeil. Yn ogystal â'r pump yma mae 'na lwyth o bobl yn helpu i wneud yn siwr bod Ffeil yn eich cyrraedd chi bob wythnos - pobl fel y cyfarwyddwr a'r golygydd VT, pobl sy'n gwneud yn siwr bod y rhaglen yn cadw at amser, y criwiau camera a'r criw sy'n gweithio yn y stiwdio. Mae gan bob un ei swydd arbennig ac mae pawb yn gorfod gweithio fel tîm.

Mae Ffeil yn un o'r rhaglenni sy'n cael eu paratoi gan Adran Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru. Mae'n adran fawr a phrysur a thrwy'r dydd bydd newyddion yn llifo i mewn o bob rhan o Gymru a'r byd. Tasg criw Ffeil ydy dewis y straeon gorau a'r rhai fydd o'r diddordeb mwyaf i bobl ifanc.

Mae pob math o bynciau yn cael sylw ar y rhaglen - chwaraeon, cerddoriaeth, gwyddoniaeth, ysgol, yr amgylchedd, straeon doniol a thrist, a hyd yn oed wleidyddiaeth weithiau. Mae Owain, Karen, Catrin a Jason yn mynd ar ôl newyddion ym mhob rhan o Gymru ac ambell waith bydd y tîm yn mentro dramor. Dros y blynyddoedd mae Ffeil wedi bod i Rwanda, Hong Kong, Llydaw, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Armenia, Kosovo, Iwerddon, Patagonia a De Affrica. Mae ganddi gysylltiad â rhaglenni newyddion tebyg ar draws Ewrop.



Y Tim
RHAGLEN DDIWEDDARAF
Clicia yma i wylio'r rhaglen ddiweddaraf



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy