|
Mae e mae'n debyg yn y gwely efo'r ffliw! Ac mae ei feddyg wedi ei gynghori i beidio a chyflwyno'r rhaglen!
Mae Bruce fel arfer i'w weld yn cyd-gyflwyno'r sioe ddawnsio 'Strictly Come Dancing' gyda Tess Daly. Ond yn anffodus mae e'n sâl ac felly am y tro 1af yn hanes y gystadleuaeth fydd e ddim ar y sgrin!
Yn 81 mlwydd oed mae Bruce wedi cyflwyno 'Strictly' am 5 mlynedd. Dyw hi ddim yn glir eto pwy fydd yn cymryd ei rol.
 |