|
Ac ymysg y rhai fydd yn diodde'r 'Bushtucker Trials' a'r bwystfilod bach bydd yr actor o 'Hollyoaks' - Stuart Manning; canwr o'r grwp pop Mis-Teeq - Sabrina Washington; a'r actor byd enwog George Hamilton. Hefyd fe fydd 1 o gyn ddawnswyr 'Strictly Come Dancing' - Camilla Dalerup a chyn-aelod o 'Eastenders' - Lucy Benjamin, yn ymuno a'r criw yn y jyngl.
Mae 'na sôn hefyd efallai y bydd Katie Price yn ymuno a'r cystadleuwyr yn hwyrach ymlaen yn y gyfres! Os cofi di, y tro diwethaf iddi fynd i'r jyngl nôl yn 2004 fe syrthiodd hi mewn cariad a Peter Andre. Felly sgwn i pa gyffro ddaw yn sgil ei phresenoldeb hi'r tro hwn?!
Os wyt ti'n fan o'r sioe, efallai byddi di'n cofio taw Joe Swash enillodd goron y jyngl y llynedd - sef yr actor oedd yn chwarae rol Mickey Miller yn 'Eastenders'. Ond tybed pwy fydd yn mynd â hi eleni!
 |