|
Yn ôl y "Sun" mae Denise, sy'n briod a Lee Mead, wedi cael ei sgan 12 wythnos.
Mae disgwyl iddi roi genedigaeth ym mis Mai!
Bryd hynny fe fydd Denise yn brysur iawn ac yn ei chanol hi fel beirniad ar raglen newydd.
Mi fydd y gyfres gan y BBC yn chwilio am seren i chwarae Dorothy yn The Wizard of Oz.
Ond mae'r r'hen Denise wedi dweud ei bod hi'n bwriadu gweithio drwy gydol ei beichiogrwydd.
Os cofi di ar raglen debyg 'Any Dream Will Do', y gwnaeth Denise gyfarfod â'i gwr Lee!
Fe aeth Lee yn ei flaen i ennill y gystadleuaeth i chwarae rhan Joseph yn y sioe gerdd yn y West End!
 |