|
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhoi rhybudd o dywydd garw iawn ar gyfer y 24 awr nesaf mewn rhai rhannau o Brydain. Maen nhw'n rhybuddio taw De a Gorllewin Lloegr a Chymru allai ddioddef waethaf. Gallai'r gwyntoedd gyrraedd hyd at 80 m.y.a mewn rhai mannau gyda lefel y glaw sy'n syrthio rhwng 40mm a 75mm.
Mae 'na rybudd i bobl sy'n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd i baratoi am y gwaethaf.
 |