|
Mae capten gemau rygbi yr hydref Stephen Jones wedi dweud ei fod e'n hyderus y bydd e'n well ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Seland Newydd ymhen 3 wythnos. Fe gafodd Jones anaf i'w benglin yn ystod y gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn. Ond mae e yn ôl y son yn ymateb yn dda i driniaeth. Dyw tim Cymru ddim yn barod i roi dyddiad pendant ar gyfer gêm nesaf Stephen ond ma'r chwaraewr yn ffyddiog y bydd e'n holliach ar gyfer gêm olaf cyfres yr hydref yn erbyn y crysau duon. Am ei fod e wedi gorfod gadael y cae ar ôl 20 munud roedd hyn yn gyfle i'r talent ifanc... James Hook i serennu! A ddydd Mercher fe fyddwn ni'n gwybod yn bendant ai fe fydd ar y cae yn lle Stephen wrth i Gymru herio Ynysoedd Môr y de ddydd Sadwrn.
 |