|
Mae Bwletin Ysgol 2009/2010 yn gyfle gwych i ddisgyblion ysgolion uwchradd 11-14 mlwydd oed brofi bwrlwm y byd darlledu a chymryd rhan mewn diwrnod unigryw gyda'r BBC ym mis Mawrth 2010.
Gyda chymorth staff y BBC ac adnoddau'r wefan, gall athrawon helpu eu disgyblion i ddatblygu'r sgiliau newyddiadurol sydd eu hangen i fod yn ohebwyr ysgol.
Ar Fawrth 11eg 2010, Diwrnod y Bwletin Ysgol, bydd ysgolion ar hyd a lled Cymru a'r Deyrnas Unedig yn darlledu eu bwletinau, ac fe fydd y rhain yn cael sylw amlwg gan y BBC yn ogystal â chael eu darlledu ar wefannau'tr ysgolion.
Paid colli'r cyfle i gymryd rhan. Am fwy o fanylion cer i wefan
bbc.co.uk/schoolreport.
 |