|
Roedd Lerpwl yn edrych fel tasen nhw ar y trywydd iawn i fuddugoliaeth oddi cartref yn Leon pan sgoriodd eilydd Leon Ryan Babel gôl 25 llathen i mewn i'r rhwyd.
Ond gydag amddiffyn gwan fe lwyddodd Lisandro López dorri trwy amddiffynwyr y cochion a sgorio gôl i ddod ar gêm i ben yn gyfartal.
Fe ddylai'r sefyllfa wedi bod yn llawer mwy addawol i'r ymwelwyr ond roedd Lerpwl yn euog o wastraffu nifer o gyfleoedd yn ystod y gêm.
Roedd Andriy Voronin yn euog o 1 o'r methiannau mwyaf yn y gêm tra bod Fernando Torres, a Lucas Leiva hefyd wedi methu sgorio i'r cochion.
Mae 'na bwysau mawr nawr ar ysgwyddau Rafael Benitez ac mae angen i Lerpwl guro Debrecen a Fiorentina i gael unrhyw obaith o gyrraedd yr 16 olaf yn y gynghrair.
 |