|
Wel, mae 'na rybudd bod yna ormod o halen mewn rhai sawsiau pasta!
Mae'r mudiad CASH - sef 'Consensus Action on Salt and Health' - sydd yn cadw llygad ar faint o halen sy'n cael ei roi yn ein bwydydd ni, yn dweud bod rhai sawsiau yn cynnwys gormod. Yn dilyn ymchwil diweddar fe welon nhw bod rhai sawsiau yn cynnwys i fyny at 3 gram o halen i bob 100 gram! Mae hyn 3 gwaith y cyfanswm sy'n cael ei argymell!
Ymysg rhai o'r sawsiau gwaethaf roedd sawsiau sy'n arddangos enw cogyddion enwog fel Jamie Oliver! Yn ôl 1 o'r bobl fu'n ymchwilio i'r lefelau o halen mae Jamie Oliver nawr yn addo y bydd e'n defnyddio llai o halen yn y dyfodol.
Mae gormod o halen yn ein diet yn gallu achosi gwasgedd gwaed uchel, felly mae 'na alw ar gwmnïau bwydydd i labeli eu bwydydd yn well.
 |