|
Mae cynllun STEREO yn gobeithio ein helpu ni i ddeall mwy am yr haul a'r modd mae'n effeithio ar offer trydanol ar y ddaear.
Weithiau mae'r haul yn ffrwydro rhywfaint - ychydig fel llosgfynydd a mae tir berwedig yn cael ei daflu allan i'r gofod. Mae hyn yn achosi stormydd sy'n gallu effeithio ar offer trydanol yma ar y ddaear. Bwriad Asiantaeth ofod NASA gyda'r cynllun yma yw helpu arbenigwyr i ddweud pryd yn union bydd y ffrwydriadau yma yn digwydd. Fe fydd hi felly yn haws i gynllunio ar gyfer teithiau i'r gofod yn y dyfodol. Fe fydd y lloerennau yma nawr yn teithio un o flaen y llall er mwyn gallu tynnu lluniau tri dimensiwn o'r haul.
 |