BBC HomeExplore the BBC

SUL
20fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ffeil

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Ffeil


Y Tîm
Y Rhaglen
Newyddion
Cefndir
E-Gardiau
Ffrindiau Ffeil
Negeseuon
Pobol y Penawdau
YNE

Cwis
Y Sîn

Radio Cymru

Planed Plant

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cymru 29, Awstralia 29. Cymru 29, Awstralia 29.
Cymru'n erbyn Awstralia - oedd roedd hon yn argoeli i fod yn gem dda.

Ar ôl i'r Gweilch ennill yn erbyn Awstralia nos fercher diwethaf roedd tipyn o edrych ymlaen at y gêm rhwng Cymru ag Awstralia ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Mileniwm.

A sawl un yn credu y byddai Cymru'n ennill.

Ond dechrau gwael iawn gafodd y cochion ac am yr hanner awr cyntaf Awstralia oedd y tîm cryfaf. Doedd y Cymry ddim yn chwarae'n dda o gwbwl a siom i'r chwaraewyr a'r cefnogwyr oedd gweld y capten Stephen Jones yn gorfod gadael y cae oherwydd anaf. Dyma oedd gêm gyntaf Stephen fel capten.

Er i bod nhw ar i hôl hi brwydrodd Cymru'n galed i ennill pwyntiau. Â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau yn dod oddi ar droed James Hook ddaeth ymlaen i'r cae fel eilydd yn lle Stephen Jones.

Erbyn yr hanner amser dim ond un pwynt oedd rhwng y ddau dim - Awstralia 17, Cymru 16. Roedd Cymru unwaith eto yn y gêm!

Ac roedd yr ail hanner yr un mor gyffrous ar hanner cyntaf - y ddau dîm yn gweithio'n galed i sicrhau taw nhw fyddai'n ennill.

Roedd Cymru'n llawer mwy hyderus erbyn hyn a llwyddodd y tîm cartref i fynd ar y blaen â chic gosb arall gan Hook. Yna aeth Cymru ymhellach ar y blaen wedi i Martyn Williams ennill y ras i gasglu cic hir Shanklin.

Ond doedd Awstralia ddim am ildio mor hawdd a hynny a chais bendigedig gan Latham yn rhoi Awstralia nôl ar y blaen. Gydag ond munudau i fynd roedd y tensiwn yn y Stadiwm yn anhygoel ond siom oedd hi i'r ddau dîm wrth i'r gêm orffen yn 29 pwynt yr un.



Y Tim
RHAGLEN DDIWEDDARAF
Clicia yma i wylio'r rhaglen ddiweddaraf



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy