|
Yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd nos Wener, Samoa oedd yr ymwelwyr.
Y tîm cartre oedd gryfaf ar ddechrau'r gêm, gyda chais cynnar yn dod i'r asgellwr Leigh Halfpenny, yn dilyn cic arbennig gan Dan Biggar.
Ond ar ôl hynny, fe fethodd Cymru dro ar ôl tro i sgorio, ac yn dilyn cais hwyr i Seilala Mapusua, roedd Cymru'n gorfod dal 'mlaen i ennill o 17 i 13.
Yn ystod y gêm bu'n rhaid i Tom Shanklin adael y cae gydag anaf. Mae profion wedi dangos ei fod e wedi torri asgwrn yn ei drwyn.
Hefyd, mae cae Stadiwm y Mileniwm nawr yn cael ei ail-osod, cyn y gêm yn erbyn Ariannin, ar ôl i bla o bryfed effeithio ar ansawdd y gwair!
I bêl-droed, ac am y tro cynta' erioed fe gafodd gêm ryngwladol ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd!
A Chymru oedd ar dan yn yr hanner cyntaf yn erbyn yr Alban, gyda seren ifanc Arsenal, Aaron Ramsey, yn helpu i greu 2 gôl, cyn sgorio 1 ei hun!
Cymru yn ennill felly o 3 i 0, a mae'r canlyniad yn golygu bod rheolwr yr Alban, George Burley, nawr yn debygol o golli ei swydd.
 |