|
"Harry Potter and the Half-Blood Prince" yw ei theitl ac er gwaetha'r tywydd garw, roedd cannoedd o ffans wedi aros y tu fas i'r sinema i gael cipolwg ar Emma Watson, Rupert Grint a Daniel Radcliffe!
Fe gafodd llwythi o enwogion gan gynnwys Jamie Oliver a Graham Norton eu gwahodd i weld dangosiad 1af y ffilm yn sinema'r Empire.
Dechreuodd y gwaith ffilmio ar gyfer 'Harry Potter and the Half-Blood Prince' yn 2007, ac roedd llawer wedi gobeithio y byddai wedi cyrraedd y sinemâu erbyn 2008! Ond nid felly oedd hi!
Bu aelodau o'r cast a chriw'r ffilm yn gwisgo rhubanau gwyn yn ystod y premier - a hynny i gofio am yr actor ifanc Rob Knox. Cafodd Rob sy'n ymddangos yn y ffilm newydd, ei ladd yn Sidcup, Llundain ym mis Mai'r llynedd. Yn ôl Daniel Radcliffe, cafodd marwolaeth Knox, oedd yn 18 oed effaith ar bawb oedd yn gweithio ar y ffilm.
'Harry Potter and the Half-Blood Prince' yw'r 6ed ffilm yn y gyfres sy'n seiliedig ar lyfrau JK Rowling.
 |