BBC HomeExplore the BBC

MERCHER
6ed Ionawr 2010
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ffeil

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Ffeil


Y Tîm
Y Rhaglen
Newyddion
Cefndir
E-Gardiau
Ffrindiau Ffeil
Negeseuon
Pobol y Penawdau
YNE

Cwis
Y Sîn

Radio Cymru

Planed Plant

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Cofio Michael Jackson
Y sioe orau ar wyneb y ddaear - dyna'r ffordd i gofio rhuwn fel Michael Jackson!
Y sioe orau ar wyneb y ddaear - dyna'r math o wasanaeth coffa roedd Michael Jackson yn awyddus i'w gael ar ôl marw.

A ddydd Mawrth yng nghanolfan Staples yn Los Angeles fe gafodd ei ddymuniad. Wedi ei farwolaeth sydyn bron i bythefnos yn ôl dyma'r cyfle olaf i roi diolch am ei fywyd.

A thros y bythefnos ddiwethaf mae marwolaeth Michael Jackson, fel ei fywyd, wedi ei fyw o flaen y camerau.

Ac roedd y seremoni yn Los Angeles yn brawf o bologrwydd y gwr sy'n cael ei alw'n frenin y byd pop. Yn y gynulleidfa ei blant, ei rieni a'i frodyr a'i chiworydd a phob un a'i hatgofion personol amdano.

Yno hefyd roedd nifer o sêr y byd cerddorol - Lionel Richie, Mariah Carey, Usher ac yn ystod y seremoni barodd ymhell dros 2 awr cafwyd perfformiad arbennig gan ei frawd Jermaine ganodd hoff gan Michael 'Smile'.

Ac ar y rhestr hefyd ro'dd na 1 Cymro - y bachgen ysgol o Abertawe Shaheen Jafargholi.

Cafodd ei wahodd i berfformio ar ôl gwneud cryn argraff ar Michael Jackson yn ystod ei berfformiad ar y rhaglen deledu 'Britain's Got Talent'.

Ac wedi perfformiadau pwerus a theimladwy fe orffenodd y seremoni gyda theyrnged arbennig i Jacko.

Y llwyfan yn llawn wrth i'r holl artisitiad uno i ganu 1 o'r caneuon allan o'r sioe roedd Jacko fod i lwyfannu yn yr O2 yn Llundain.

Yn fôr o gan felly fe orffennodd y seremoni a'r byd i gyd yn ffarwelio a un gewri mwyaf cerddorol ein hoes.


Y Tim
RHAGLEN DDIWEDDARAF
Clicia yma i wylio'r rhaglen ddiweddaraf



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy