|
Mae'r wefan wedi penderfynu rhoi stop arnyn nhw.
Am 6 o'r gloch nos Lun wrth i bobl ym Mhrydain logio mlaen ar y wefan fe ddiflannodd miloedd o fideos cerddorol oddi arni.
'Google' ydy perchnogion 'YouTube', ac mae rheolwr y cwmni yn dweud ei fod yn rhy ddrud i gadw'r fideos ar y we.
Ac nid dim ond lluniau symudol swyddogol gan gwmnïau recordiau sydd wedi eu gwahardd. Mae fideos swyddogol sydd wedi cael eu llwytho gan ffans yn cael eu heffeithio hefyd.
Nid oes gan 'You Tube' hawl i osod fideos am ddim, mae'n rhaid iddyn nhw dalu hawliau am ddefnyddio cerddoriaeth i fudiad o'r enw PRS.
Ac mae'r holl broses yn rhy ddrud.
 |