|
Bryn y Briallu - Primrose Hill - yn Llundain fyddai'r lle naturiol i osod y gofeb.
Mae ymgyrchwyr hefyd yn ceisio denu sylw a chodi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr achos.
Ond pwy oedd Iolo Morgannwg?
Edward Williams oedd ei enw bedydd a chafodd ei eni ar Fawrth 10, 1747 ym mhlwyf Llancarfan ym Morgannwg.
Mae'n enwog oherwydd taw fe wnaeth gynnal y cyfarfod cyntaf o Orsedd y Beirdd Cymraeg a hynny ym Mryn y Briallu yn Llundain yn 1792.
Iddo fe mae'r diolch felly bod yr Orsedd yn rhan o'r Eisteddfod Genedlaethol hyd heddiw.
Fe fydd y gofeb ar ffurf murlun wedi'i osod yng nghanol llechen gron.
Mae 2 artist o Gymru wedi eu comisiynu i greu'r darn o waith llechen, John Meirion Morris ac Ieuan Rhys.
Mae'n siŵr y byddai Iolo Morgannwg ei hun yn hynod o falch ei fod yn cael ei gofio fel hyn!
 |