bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

IAU
10fed Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ffeil

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd

»

Ffeil


Y Tîm
Y Rhaglen
Newyddion
Cefndir
E-Gardiau
Ffrindiau Ffeil
Negeseuon
Pobol y Penawdau
YNE

Cwis
Y Sîn

Radio Cymru

Planed Plant

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Y Rhaglen
Ffeil
Ffeil


Dechreuodd Ffeil ym mis Medi 1995 a hon ydy'r unig raglen newyddion Gymraeg i bobl ifanc. Gelli di wylio Ffeil o ddydd Llun i ddydd Gwener am 1650 yn ystod Planed Plant ar S4C.

Mae 'na bump o bobl yn gweithio drwy'r amser ar y tîm. Rwyt ti'n gweld Owain, Karen a Nia ym mhob rhaglen, ond dim ond clywed lleisiau Ioan a Rhian fyddi di. Nhw sy'n cynhyrchu'r rhaglen a'u gwaith ydy penderfynu pa straeon newyddion sy'n cael mynd ar Ffeil. Yn ogystal â'r pump yma mae 'na lwyth o bobl yn helpu i wneud yn siwr bod Ffeil yn eich cyrraedd chi bob wythnos - pobl fel y cyfarwyddwr a'r golygydd VT, pobl sy'n gwneud yn siwr bod y rhaglen yn cadw at amser, y criwiau camera a'r criw sy'n gweithio yn y stiwdio. Mae gan bob un ei swydd arbennig ac mae pawb yn gorfod gweithio fel tîm.

Mae Ffeil yn un o'r rhaglenni sy'n cael eu paratoi gan Adran Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru. Mae'n adran fawr a phrysur a thrwy'r dydd bydd newyddion yn llifo i mewn o bob rhan o Gymru a'r byd. Tasg Ioan a Rhian ydy dewis y straeon gorau a'r rhai fydd o'r diddordeb mwya i bobl ifanc.

Mae pob math o bynciau yn cael sylw ar y rhaglen - chwaraeon, cerddoriaeth, gwyddoniaeth, ysgol, yr amgylchedd, straeon doniol a thrist, a hyd yn oed wleidyddiaeth weithiau. Mae Owain, Karen a Nia yn mynd ar ôl newyddion ym mhob rhan o Gymru ac ambell waith bydd y tîm yn mentro dramor. Dros y blynyddoedd mae Ffeil wedi bod i Rwanda, Hong Kong, Llydaw, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Armenia, Kosovo, Iwerddon, Patagonia a De Affrica. Mae ganddi gysylltiad â rhaglenni newyddion tebyg ar draws Ewrop.



y tim
y rhaglen
egardiau
negeseuon
yne
cwis

y sin

radio cymru
planed plant


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy