|
Eisiau anfon gair?
Os wyt ti eisiau anfon gair at Ffeil am unrhyw beth, dyma
dy gyfle!
- Oes cwestiwn gen ti ?
- Efallai bod barn gen ti
am rywbeth yn
y newyddion . . .
- Tybed oes gen ti stori newyddion
fyddai o ddiddordeb i Ffeil ? . . .
- Neu wyt ti eisiau rhannu jôc
?
Rydyn ni'n darllen pob neges a bydd y neges orau bob wythnos yn
ennill pecyn Ffeil.

Pwy bynnag yn fama sy'n mynd i ysgol uwchradd eleni, peidiwch â bod ofn, does dim byd i boeni amdano. mae fy ffrind i wedi bod yn yr ysgol uwchradd yn barod, ac mae hi'n deud ei fod o'n gret. mwynhewch eich hunain tra da chi yno.
Alwen, Bontnewydd

Haia Owain o Ffeil!!! Roedd fy chwaer i wedi gweld ti yn recordio stori cerdded i'r ysgol yn Nhre-gwyr. mae hi yn mynd i ysgol gyfun gwyr, ac roedd ei ffrind hi wedi siarad ar Ffeil gyda ti. Roedd pawb wedi mwynhau gweld ti ar y rhaglen, a fi'n edrych ymlaen i weld y rhaglen eto. cariad mawr oddi wrthGemma x*x*x*x*x
Gemma, Abertawe

Haia !!! A ydych chi wedi eich bachu ar y gêm newydd sydd yn mynd yn fwy a fwy poblogaidd pob eiliad ? Dwi'n sôn am suduko ( neu wbath felly !? ) mae pobl a phlant yn gallu ei chwarae o ac mae'n eich gwneud yn gaeth iddo yn sydyn iawn !!
Angharad, Llanberis

Haf hapus i bawb yn Ffeil ac ei ffrindiau sef Sera,Emma a Arian.
Caryl

helo, lowri o ysgol cwm y glo sy yma. mi welais dy rhaglen neithiwrxxxxxxxxxxxxx
Lowri

fuaswn yn hoffi dweud fy mod yn meddwl mai Owain yw'r cyflwynydd mwyaf deniadol a secsi ar y teledu.Llawer o gariad a swsus gwlyb Sera xxxxxxxxxxxxxxxxxx
Sera, Porthmadog

Mae Jack a Meical yn cerdded drwy'r parc ac mae Jack yn disgyn i mewn i dwll.Mae Meical yn gofyn wrtho "Ydi hi'n dywyll yno?"Mae Jack yn ateb "Dwi'm yn gwbod mae hi rhy dywyll alla i ddim gweld dim byd!"
Caryl, Porthmadog

Diolch i Karen am ddod i Ysgol Cwm Y Glo ar ddydd gwener a siarad gyda fi, Natasha a Harry. Rwy'n gwylio pob wythnos HWYL FAWR!!!
Tom

helo ffeil. rydw i wedi mwynhau bod ar y teledu. rydach chi'n cwl iawn i mi. diolch yn fawr iawn. ps gai eich autograph plis. diolch y cwl dwds
Aimee Louise, Benllech

helo ffeil. rydw i wedi dysgu llawer o bethau wrth i chi dod i'n ysgol. rydw i yn embarressed hefo mynd ar y teledu. rydw i wedi gwneud hyn o'r blaen hefo rygbi. ta ta laura
Laura, Benllech

|