EI FILLTIR SGWÂRUn o Ddyffryn Teifi ydy T. Llew Jones. Fe gafodd ei eni a'i fagu ym mhentref bach Pentrecwrt ger Llandysul, a bu'n athro yn yr ardal am 35 o flynyddoedd. Dyma'i filltir sgwâr ac mae ei storïau yn llawn cyfeiriadau at lefydd yn yr ardal, fel Cwmtudu yn y nofel Dirgelwch yr Ogof. Y Plas sy'n sefyll ar ben y clogwyn uwchben Llangrannog ydy'r plas yn ei nofel Ysbryd Plas Nantesgob hefyd.

Y nofel gyntaf ysgrifennodd T. Llew Jones ar gyfer plant oedd Trysor Plas y Wernen. Mae wedi ysgrifennu dros 50 o lyfrau i gyd, 35 ohonyn nhw i blant. Fe ddechreuodd ysgrifennu pan oedd e'n ddisgybl yn yr ysgol gynradd.
"Ysgrifennu oedd y peth gorau roeddwn i'n gallu ei wneud yn yr ysgol 'slawer dydd. Roedd 'na lot o bethau doeddwn i ddim yn gallu eu gwneud. Doeddwn i ddim yn arlunydd, a fedrwn i ddim gwneud mathemateg na dim fel 'na, ond mi oeddwn i'n gallu ysgrifennu. Dyma ryw ddawn ges i pan oeddwn i'n fachgen bach - dawn ysgrifennu."
Ond nid ysgrifennu straeon yn unig mae T. Llew Jones. Mae e hefyd yn giamstar ar eu hadrodd. Mae e wedi cwrdd â miloedd ar filoedd o blant Cymru, ac os ydych chi'n un o'r rheini mae'n bosib iawn mai yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog roedd hynny. Mae e wrth ei fodd yn mynd yno i ddifyrru ei ffans.
O'R LLYFR I'R SGRÎN

Mae gwaith T. Llew wedi cael ei addasu ar gyfer y teledu hyd yn oed, ac wedi'i ddangos mewn nifer o wledydd gwahanol ar draws y byd gan gynnwys Chile, De Affrica, Awstralia a'r Almaen. Un o'r llyfrau hynny yw Tân ar y Comin.
Y LLYFRAU
Dyma rai o lyfrau enwocaf T. Llew Jones:
Tân ar y Comin
Dirgelwch yr Ogof
Corn, Pistol a Chwip
Barti Ddu
Un Noson Dywyll
Trysor y Môr-ladron
Ysbryd Plas Nantesgob
Y Gelyn ar y Trên
Y Corff ar y Traeth
Yr Ergyd Farwol

HOFF LYFR?
Mae un cwestiwn yn cael ei ofyn iddo'n amlach na'r un dros y blynyddoedd: Pa lyfr o'i waith ydy ei ffefryn personol e?
"Dwi'n gofyn i'r un sy'n gofyn y cwestiwn i fi, 'Oes brawd neu chwaer ganddoch chi?' A falle fe ddywedith y ferch fach sy'n gofyn i fi bod dau frawd gyda hi. Mi fyddwn i wedyn yn gofyn iddi, 'A fydden i'n gofyn i'ch mam pa un o'r rhain sy' well gyda hi? Beth fyddai hi'n ddweud?' Dwi'n gwybod beth fyddai hi'n ei ddweud. Mi fyddai'n dweud, 'Dwi'n hoffi nhw i gyd, y tri ohonyn nhw'. A fel'na dwi'n teimlo am fy llyfrau. Dwi ddim moyn dweud bod un yn well na'r llall. Dwi'n teimlo fel tad iddyn nhw a dwi'n hoffi nhw i gyd. Dwi'n meddwl eu bod nhw i gyd yn dda!"
Ond mae Ffeil eisiau gwybod pa un ydy dy hoff lyfr di? Gad i ni wybod!