bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

SADWRN
28ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ffeil

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd

»

Ffeil


Y Tîm
Y Rhaglen
Newyddion
Cefndir
E-Gardiau
Ffrindiau Ffeil
Negeseuon
Pobol y Penawdau
YNE

Cwis
Y Sîn

Radio Cymru

Planed Plant

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Y Gemau Olympaidd
Y Gemau Olympaidd
Y Gemau Olympaidd

Mae'r Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd. Fe ddigwyddodd y rhai diwethaf yn Athen, Gwlad Groeg, yn 2004. Dyma'r wythfed tro ar hugain i'r gemau modern gael eu cynnal. Y Gemau Olympaidd yw achlysur mwyaf y byd chwaraeon ac mae miloedd o athletwyr yn cystadlu mewn bron i 200 o gystadlaethau gwahanol. Mae'r cystadlu fel arfer yn para tua phythefnos gyda rhyw 200 o wledydd gwahanol yn cymryd rhan mewn 28 o gampau gwahanol - o badminton i bêl foli, o neidio i nofio.

YR HEN A'R MODERN

Cafodd y Gemau Olympaidd cyntaf erioed eu cynnal bron i 3,000 o flynyddoedd yn ôl yn 776 CC yn Olympia, Gwlad Groeg. Ar y dechrau yr unig gystadleuaeth oedd y stadion, sef ras redeg. Yn nes ymlaen daeth y pentathlon, y ddisgen, y waywffon, rasio gyda cherbyd a cheffyl, y naid hir a reslo. Byddai pwy bynnag a enillai gystadleuaeth yn derbyn torch o ganghennau'r goeden olewydd yn hytrach nag arian. Er i'r Gemau gael eu cynnal bob pedair blynedd ar ôl hynny, fe gawsan nhw eu gwahardd yn 393 OC gan yr Ymerawdwr Theodosius I.

Y Faner Olympaidd


Bu'n rhaid aros 1,500 o flynyddoedd cyn iddyn nhw gael eu cynnal eto, a hynny yn 1896. Y Baron de Coubertin oedd yn gyfrifol am y Gemau modern. Fo hefyd gyflwynodd y Faner Olympaidd, sef cefndir gwyn gyda phum cylch lliw yn cydblethu i gynrychioli'r pum cyfandir - Ewrop, Asia, Affrica, America ac Oceania.

Yn yr Hen Roeg roedd fflam gysegredig yn cael ei llosgi wrth yr allor i Zews, Duw'r Haul, yn ystod yr Ŵyl Chwaraeon. Cafodd y traddodiad ei ailgynnau yn 1924, ac ers 1952 mae fflam wedi'i thanio gan ddefnyddio drych a phelydrau'r haul. Mae'r fflam yn cael ei chario o berson i berson o'r safle hynafol yn Olympia yng Ngwlad Groeg i'r ddinas sy'n cynnal y gemau y flwyddyn honno.

Y Fonesig Kelly Holmes


OLYMPAU 2004
Doedd dim rhaid i'r fflam Olympaidd fynd yn bell iawn yn 2004. daeth y Gemau Olympaidd yn ôl i Wlad Groeg ac i Athen ei hun. Fel rhan o dîm Prydain mae athletwyr Cymru'n cystadlu ac roedd hi'n flwyddyn lwyddiannus i rai aelodau o'r tîm. Cafodd Prydain 30 o fedalau i gyd - 2 yn fwy nag enillon nhw yn Sydney yn 2000. Enillodd y rhedwraig, Kelly Holmes, 2 fedal aur. Medal arian gafodd y bocsiwr ifanc, Amir Khan. Llwyddodd y Cymro, David Davies o'r Barri, i ennill y fedal efydd am nofio 1500m yn y dull rhydd.


Tanni Grey-Thompson


Y PARALYMPAU
Ar ôl y Gemau Olympaidd mae'r Gemau Paralympaidd yn cael eu cynnal, pan fydd cystadlu brwd i dros 4,000 o athletwyr sydd ag anabledd. Yn y Paralympau arwres y dydd heb os oedd y Gymraes, Tanni Grey-Thompson. Fe enillodd fwy o fedalau aur na neb arall yn y gemau. Mae ganddi bellach 11 medal aur. Roedd 'na lwyddiant hefyd i'r nofiwr paralympaidd, David Roberts. Fe enillodd o 4 medal aur.

GEMAU'R DYFODOL
Yn Beijing, yn China, y bydd y Gemau Olympaidd nesaf yn cael eu cynnal, a hynny yn 2008. Mae'r wlad wrthi'n brysur yn paratoi ar gyfer yr achlysur. Ar ôl hynny byddan nhw'n dod yn llawer nes atat ti! Mae Llundain wedi cael ei dewis i lwyfannu'r gemau yn 2012. Paris oedd y ffefryn i ennill tan y funud olaf, ond Llundain ddaeth i'r brig yn y diwedd. Dyma fydd y tro cyntaf i Brydain gynnal y Gemau Olympaidd ers 1948.

Cysylltiadau defnyddiol

Gemau Olympaidd Gwlad Groeg



y tim
y rhaglen
egardiau
negeseuon
yne
cwis

y sin

radio cymru
planed plant


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy