Does dim dwywaith bod y blaned yn gorboethi. Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dod i'r golwg fod ein hinsawdd ni'n newid yn gyflym iawn, a hynny oherwydd y nwyon ty gwydr sydd yn yr aer. Mae gwyddonwyr wedi sylwi bod rhewlifoedd ym Mhegwn y Gogledd a'r De yn toddi'n gyflym iawn. Maen nhw'n poeni y gallai lefel y môr godi cymaint â metr dros y ganrif nesaf. Fe fyddai hyn yn rhoi nifer o ynysoedd ac arfordiroedd isel o gwmpas y byd mewn perygl o ddiflannu.
LLYGREDD
Mae'n prif arbenigwyr tywydd yn sicr mai llygredd sydd bennaf ar fai.
Mae'r rhan fwyaf o wledydd y byd yn teimlo ei bod hi'n hen bryd i ni sylweddoli na allwn ni anwybyddu'r newid hwn. Mae angen dod o hyd i ffyrdd gwell a glanach o fyw ein bywydau bob dydd.

TRAFNIDIAETH
Bob blwyddyn mae mwy a mwy o geir yn llenwi'n ffyrdd. Ar hyn o bryd ym Mhrydain mae 30 miliwn ohonyn nhw'n cael eu defnyddio. Mae hyn yn golygu fod yna lygredd aruthrol yn cael ei ollwng i'r amgylchedd wrth i ni yrru o le i le. Mae arbenigwyr am weld pobl yn defnyddio llai ar eu ceir drwy feicio neu gerdded mwy neu gymryd y bws. Os oes rhaid defnyddio'r car mae'n bosib rhannu lifft.
SBWRIEL
Rhywbeth arall sy'n cyfrannu at y llygredd yw sbwriel. Yma yng Nghymru a dros y byd i gyd mae llawer gormod ohono - yn bapur, poteli, bagiau plastig a phob math o bethau eraill. Mae pob un ohonon ni'n cyfrannu at y broblem. Ond mae rhywbeth y gall pob un ohonon ni ei wneud i helpu, sef ailgylchu. Mae modd ailgylchu papur, poteli gwydr, caniau alwminiwm, pethau plastig a hyd yn oed ddillad ac esgidiau.
Mae'r rhan fwyaf o'r sbwriel sy'n cael ei gasglu'n cael ei luchio i mewn i dyllau anferth ar safleoedd arbennig. Dros y blynyddoedd mae mynyddoedd o sbwriel yn cael eu creu. Mae llawer yn poeni am effaith y llefydd yma ar ein hiechyd, ac mewn sawl ardal, mae rhieni a phlant wedi bod yn protestio yn erbyn adeiladu ysgolion newydd ar hen safleoedd gwastraff.
Mae Cymru'n claddu 95% o'u sbwriel a ni yw'r wlad waethaf yn Ewrop am ailgylchu. Dim ond 5% sy'n cael ei ailgylchu ar hyn o bryd, ond y bwriad ydy codi'r rhif yma i 40% cyn 2010.

YNNI
Mae llawer yn credu bod gweithfeydd trwm fel rhai dur ac olew yn gyfrifol am greu llygredd hefyd. Ar ben hynny, mae tanwydd ffosil y byd yn prinhau. Yn lle llosgi mwy a mwy o danwydd fel glo ac olew, mae'r llywodraeth am ddod o hyd i ffyrdd eraill mwy naturiol o gynhyrchu ynni. Mae melinau gwynt yn un opsiwn. Mae'n nhw'n cael eu gosod mewn mannau gwyntog iawn yng nghefn gwlad neu allan yn y môr, ac wrth iddyn nhw droi, maen nhw'n creu ynni heb lygredd. Mae rhai pobl, fodd bynnag, yn cwyno eu bod nhw'n hyll ac yn swnllyd. Erbyn y flwyddyn 2010 mae'r llywodraeth am weld 10% o'r ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio'n cael ei greu drwy ffyrdd naturiol fel melinau gwynt.
CYTUNDEB KYOTO
Yn 1997 roedd llygaid y byd ar Kyoto yn Siapan. Yno y bu arweinwyr y byd yn cyfarfod i geisio datrys rhai o'n problemau cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Fe gytunodd bron pawb y bydden nhw'n ceisio lleihau faint o nwyon gwenwynig sy'n cael eu gollwng i'r amgylchedd.

Ym mis Mawrth 2001 roedd y cyfan mewn perygl o chwalu pan dynnodd yr Unol Daleithiau - y wlad sy'n llygru fwyaf - yn ôl o'r cytundeb. Felly, fe ddaeth gweinidogion o dros 180 o wledydd ynghyd i drafod o ddifrif yn yr Almaen er mwyn ceisio achub cytundeb Kyoto.
Mae gwledydd eraill fel Siapan hefyd wedi bod rhwng dau feddwl. Ond mae Ewrop am fwrw ymlaen â'r cynlluniau heb America.
ECO-YSGOLION
Mae nifer o ysgolion Cymru'n eco-ysgolion erbyn hyn ac yn gwneud eu rhan i helpu'r amgylchedd. Yn Ysgol Trefdraeth yn Sir Benfro mae paneli solar yn cynhyrchu trydan ar gyfer rhannau o'r adeilad. Mae gan Ysgol Trewen ger Castell Newydd Emlyn ardd organig lle maen nhw'n gallu casglu'r llysiau ar gyfer prydau'r ysgol. Ac yn Ysgol yr Hendy ger Llanelli maen nhw'n canolbwyntio ar ailgylchu pethau fel teiars.
Gall pob un ohonon ni wneud ein rhan. Mae un peth yn sicr, os na wnawn ni newid y ffordd rydyn ni'n byw ar frys fe fydd hin rhy hwyr i droi'r cloc yn ôl.