Awyr las ac erwau gleision

Pigion Pontcanna - bore Sul

Dyddiadur boreol o'r Maes

Dic yn gyntaf

Cafwyd y llinell gyntaf o gynghanedd o lwyfan y Brifwyl yn gynnar yn ystod y seremoni agoriadol nos Wener - a hynny gan yr Archdderwydd ei hun.

Hugh Thomas, llywydd Llys yr Eisteddfod oedd ar y llwyfan yn annerch ond oherwydd trafferthion sain doedd y gynulleidfa yn clywed dim - dim ond gweld ei geg yn symud.

Ond fel pob Archdderwydd da yr oedd gan Dic yr Hendre linell o gynghanedd ar gyfer yr achlysur.

Ac fe'i rhannwyd â'r gynulleidfa o dros fil gan Huw arall oedd ar y llwyfan, Huw Llywelyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, pan ddaeth y meicroffonau at eu coed.

"Caled iawn yw clywed Hugh."

Go brin y bydd hi mewn unrhyw awdl am Gadair ond y mae iddi'r hynodrwydd o fod y llinell gyntaf, o lwyfan eisteddfod gyntaf yr amaethwr cyntaf i fod yn Archdderwydd.

A fyddai neb yn synnu clywed sawl llinell bachog arall yn ystod yr wythnos gan yr Archdderwydd hwn.

Bydd ein clustiau'n agored ar eich rhan!

Mae croeso - ond . . .

DOEDD yna ddim baneri na geiriau o groeso ar gyrion Caerdydd yn arwyddion bod Eisteddfod yn y Brifddinas.

Ac yr oedd gan y gyrrwr tacsi lai o syniad na fi lle'n union y tu ôl i dai Heol y Gadeirlan yr oedd prifwyl y diwylliant Cymraeg.

"That looks more like it," meddai pan ymffurfiodd yr anghenfiles binc a'i phlant bach gwynion o'n blaenau yn y diwedd.

Fydd hi ddim felly yn Y Bala y flwyddyn nesaf - mi allwch chi golli Steddfod mewn lle fel Caerdydd ond yn Y Bala bydd yn meddiannu'r dref a'i chyffiniau.

Un rheswm arall pam yr oedd her Pwyllgor Gwaith Caerdydd yn un mor fawr. Efallai bod cronfa fwy o bobl i rannu'r baich ond yr oedd gwaith aruthrol egluro i'r rhelyw o'r rheini beth goblyn sy'n digwydd yn, ac o gwmpas, Ms Pinc.

Ond fe gyflawnodd y ffyddloniaid brwd y gamp o godi mwy na'r gofyn - a'r disgwyl - o arian ar gyfer y gronfa leol gydag ardaloedd y tu allan i ddalgylch y Briddinas wedi anfon rhoddion.

Bu'n gamp a dim rhyfedd bod hynny'n cael ei ailadrodd gyda chymaint o foddhad drosodd a throsodd yn ystod y dyddiau agoriadol ac yr oedden nhw wrth eu boddau nos Sadwrn o glywed i fwy o ymwelwyr ymweld â'r maes y diwrnod hwnnw nag yn y Fflint y llynedd ac Abertawe y flwyddyn cynt - 17,681 o gymharu â 16,710 (Y Fflint) a 16,565 (Abertawe).

Dechrau da - dechrau addawol felly.

Rhyw dywydd felly

"Mae'n ymddangos mai patrwm y tywydd yng Nghaerdydd yw ei bod hi'n glawio y peth cyntaf yn y bore ond yn codi'n braf ac yn sychu yn nes ymlaen yn y dydd.

Fel y dwedodd gyrrwr tacsi (arall), "That's Cardiff".

A dydi hynny mewn gwirionedd ddim yn newyddion cwbl ddrwg i drefnwyr yr Eisteddfod gan fod y maes yn un sy'n amlwg yn sychu'n sydyn.

Meysydd dinesig

Yr hyn sydd wedi synnu yr ymwelwyr hynny â'r Eisteddfod sydd ddim yn gyfarwydd â Chaerdydd yw fod y fath aceri o gaeau gleision mor agos i ganol dinas fwyaf Cymru.

Digon o erwau i gynnal dinas diwylliant fel petai ac ymhlith y coed ar lannau Tâf gall rhywun deimlo ei fod ym mherfeddion gwlad.

Mae'n rhaid eu bod yn dod a dagrau yn ddyddiol i lygaid datblygwyr barus na allant gael eu dwylo arnynt!

Ymhell o sŵn y ddinas - ond yn ddigon agos i gerdded yno i ymdrybaeddu yn y diwylliant arall hwnnw a elwir yn Siopa.

Gallai cynganeddwr gyfansoddi ei englyn cyntaf mewn lle o'r fath.
Ond callach disgwyl am Dic . . .
Sion Steddfod


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.