Huw Llywelyn Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd

Rhieni "goleuedig" Caerdydd

Teyrnged i rieni a fynnodd addysg Gymraeg.

Talwyd teyrnged i'r rhieni "goleuedig" hynny yng Nghaerdydd - llawer ohonynt yn ddi-Gymraeg - a fynnodd addysg Gymraeg i'w plant dros y blynyddoedd diwethaf.

"Ac mae'n addas iawn taw noson i ddathlu llwyddiant addysg Gymraeg yn y Brifddinas sydd yma i agor yr Eisteddfod eleni," meddai Huw Llywelyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, wrth annerch yn seremoni agoriadol yr Eisteddfod nos Wener.

Cyfeiriodd Mr Davies at y newid sylweddol a fu yng Nghymreictod Caerdydd er pan oedd yr Eisteddfod yma ddiwethaf yn 1978 gan briodoli hynny i'r "ffrwydriad" a fu mewn addysg Gymraeg yno.

"Y tro diwethaf yr oedd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd oedd y flwyddyn hefyd pan agorwyd yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf - Ysgol Uwchradd Glantaf.

"Ugain mlynedd yn ddiweddarach dilynodd Ysgol Plasmawr ac mae'r ddwy dan eu sang. Bydd rhaid cael rhagor cyn hir ac mae hynny'n arbennig," meddai.

"Bron i ddwy fil o bobl ifainc yn derbyn eu haddysg yn eu harddegau trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Nôl yn y Saithdegau hefyd un ysgol gynradd oedd yna - erbyn heddiw mae yna 12. Mae yna dair arall wedi dechrau ar y daith. Dyna yw y galw.

"Mae o'n achos balchder a llawenydd inni gyd a diolch am ymroddiad y rhieni goleuedig hynny sydd wedi anfon eu plant - o gartrefi di- Gymraeg - i gyfrannu o'r addysg honno," meddai.

Yn siarad mewn seremoni fer cyn y cyngerdd cyntaf ym mhafiliwn Eisteddfod 2008 - Cyngerdd Tri10 - canmolodd Mr Davies hefyd ymdrechion codi arian trigolion Caerdydd ar gyfer yr Ŵyl gyda phob nod ariannol "wedi cyrraedd ac wedi hen basio hefyd yn gyfforddus ers wythnosau lawer."

Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd cynnal y digwyddiad yng nghanol y ddinas - er lles yr Eisteddfod ac er lles Caerdydd ei hun gan ddymuno gweld y naill a'r llall yn "cofleidio" ei gilydd.

"Dwi'n mawr obeithio y byddwch chwi Eisteddfodwyr sydd efallai ddim yn dod yn aml iawn i'r Brifddinas yn teimlo bod y brifwyl hon erbyn diwedd yr wythnos yn perthyn i chi oherwydd mae yna deimlad mewn rhai rhannau o Gymru mai prifddinas ddieithr iddyn nhw yw hon.

"Dwi'n gobeithio pontio hynny yn ystod yr wythnos a'i gwneud yn berthnasol i bawb," meddai.

Yn ogystal mynegodd obaith y byddai'r Eisteddfod yn gadael ei hargraff ar Gaerdydd.

"I'r trigolion lleol wybod fod yna brifwyl yma a'i bod hi yn ŵyl iddyn nhw ac nid i'r Cymry Cymraeg yn unig. Mae'n ŵyl i bawb o bob cefndir, o bob tras ac o bob iaith," meddai.

"Eich cael chwi Eisteddfodwyr i gofleidio'r Brifddinas a'r Brifddinas i gofleidio'r Brifwyl - dyna yw ein nod ni," meddai.

"Yr oedd hi'n freuddwyd i Gaerdydd eleni fod yn ddinas diwylliant Ewrop a'r Steddfod hon yn uchafbwynt i'r dathlu a'r gweithgarwch.

"I Lerpwl yr aeth yr anrhydedd honno ond yr ydym ni yma yn benderfynol ein bod ni am un wythnos yn mynd i gael Caerdydd yn brifddinas deilwng i'n prifwyl ni," meddai.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.