Advertisement
Mererid Wigley

Eisteddfod gyntaf silibili

Dilladau Cymraeg i'r babanod

Mae cwmni newydd sy'n gwerthu dillad ffasiynol, beiddgar a hwyliog ar gyfer babanod wedi cael ei lansio yn yr eisteddfod yng Nghaerdydd.

Mae silibili.co.uk, sydd yn gwerthu crysau-t Cymraeg ar gyfer plant hyd at ddau oed, wedi cael ei sefydlu gan Mererid Wigley cyflwynydd y gyfres Ffermio ar S4C.

Dywedodd Mererid ei bod hi wedi meddwl am y syniad ers rhai blynyddoedd, ond fe benderfynodd fynd amdani eleni ar ôl i nifer o'i ffrinidau ddweud eu bod nhw'n cael trafferth canfod dillad modern a ffasiynol yn y Gymraeg ar gyfer eu plant.

"Roedd pawb yn cwyno bod cymaint o Saesneg ar bopeth a'i bod hi'n anodd ffeindio unrhyw beth plaen neu yn y Gymraeg.

"Ro'n i'n ymwybodol bod 'na dipyn o gwmnïau yn cynnig dillad Cymraeg i blant ond ro'n i'n credu bod yna le yn y farchnad i gynhyrchu crysau-t beiddgar Cymraeg i blant bychain iawn.

"Mae'n neis hefyd bod pobol di-Gymraeg yn gweld bod yna ddillad plant cŵl ar gael yn y Gymraeg."

Mae silibili hefyd yn cynhyrchu cardiau pen-blwydd i blant ac ar ôl derbyn ymateb mor dda yr wythnos hon, maen nhw'n gobeithio ehangu i wneud bibs, hetiau a babygrows hefyd yn y dyfodol.

Mae'r dillad i gyd yn ddillad masnach deg, sy'n golygu bod y ffermwyr a gwneuthurwyr sy'n creu a chynhyrchu'r dillad yn cael pris teg am eu gwaith.

Yn ôl Mererid mae'r marc yma yn dod yn fwyfwy pwysig.

"Dwi'n gobeithio y bydd y cwmni'n apelio at rieni modern ... sy'n ymwybodol o bwysigrwydd gwybod bod y dillad wedi'u cynhyrchu mewn dull moesol a theg, ond sydd, yn bennaf yn chwilio am ddilledyn atyniadol."

Mae dillad silibili ar werth mewn siopau ar draws Cymru


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.