BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MERCHER
23ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Dwys drafod gyda'r Archdderwydd yn ystod un o seremoniau'r Orsedd Llwyddiant difwstwr
Trefnwyr Eisteddfod Abertawe 2006 wedi eu plesio
Cafwyd maes a alwyd yn 'lleuad' oherwydd ei arwynebedd caregog, llwyd a llychlyd.
Cafwyd pafiliwn pinc.
A chafwyd gwên ar wyneb trefnwyr yr Eisteddfod wrth iddyn nhw wylio mantolen ariannol y Brifwyl yn symud o'r coch, heibio'r pinc, ac i'r glas a'r cyfarwyddwr, Elfed Roberts, yn rhagdybio rhyw £100,000 o elw.

Rhwng popeth bu hon yn Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus ddigon gyda'r ffigurau mynediad ar ddechrau'r wythnos yn well na Eryri y llynedd.

Ac, yn wir, erbyn diwedd yr wythnos nid oedd ffigurau mynediad Abertawe ond dwy fil a hanner yn brin o rai Eryri y llynedd - er bod honno'n ardal sy'n cael ei disgrifio byth a hefyd fel "cadarnle'r" Eisteddfod Genedlaethol.

Ar gyfer yr wythnos gyfan gwerthwyd 155,437 o docynnau o gymharu â 157,820 yn Eryri a 147,785 yng Nghasnewydd y flwyddyn cynt.

Yn ariannol hefyd gwnaeth y Jacs yn dda gyda phwyllgorau lleol yn codi llawer iawn mwy o arian na'r nod a osodwyd iddynt.

Yr anweledig
Llwyddwyd hefyd i gael byddin o wirfoddolwyr i gynorthwyo mewn pob math o ffyrdd.

Rhain oedd y bobl "anweledig" y cyfeiriodd Heini Gruffudd, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith atyn nhw yn y gynhadledd olaf i'r wasg, fore Sadwrn.

"Rhaid diolch," meddai, "i'r cannoedd o bobl anweledig sydd wedi bod yn ddyfal yn gweithio am dros ddwy flynedd ac yn ystod yr wythnos yma.

"O'r rhai sydd wedi bod yn smwddio gwisgoedd yr Orsedd, i wneud te i'r stiwardiaid.

"Mae dros 300 o stiwardiaid wedi bod yn gweithio yma dros yr wythnos ac o werthu tocynnau yn ddyfal ers misoedd i'r pebyll arddangos fel Celf a Chrefft a'r Pagoda mae'n debyg bod dros 1,000 o wirfoddolwyr wedi bod yma i gynnal yr wythnos lwyddiannus yma.

"Rydym yn ffodus iawn o fod wedi cael cefnogaeth y bobl leol ac maen nhw'n haeddu clod.
Clod i'r rhai na welwn ni."

Eangu'r apêl
Ac yn ystod ei ymweliad â'r Eisteddfod canmolodd Prif Weinidog y Cynulliad, Rhodri Morgan - a oedd yno gyda'i frawd yr Athro Prys Morgan, llywydd anrhydeddus yr Ŵyl - ymdrechion yr Eisteddfod i 'eangu ei hapêl" gyda'r awgrym fod yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto yn llyfrau da y Cynulliad.

Ond, fel y dywedodd sawl gwaith o'r blaen prysurodd Dafydd Whittal, cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, i atgoffa pawb mai gwella y mae cyflwr y Brifwyl ac nid wedi ei ddatrys.

Dyna neges y trysorydd, Eric Davies, hefyd:
"Wedi gwneud colledion yn y blynyddoedd diwethaf mae'r newyddion yma [am elw] yn Abertawe yn newyddion da iawn," meddai "Gallwn ddweud ein bod eleni wedi cyrraedd y targedau mynediad i'r maes, wedi mynd heibio'r targed ar gyfer y cyngherddau ac felly bod 'na elw."

Diolch i gyngherddau
Eglurodd fod y gwahaniaeth rhwng elw a cholled yn dibynnu'n fawr ar y cyngherddau ac i rai Abertawe fod yn rhai llwyddiannus iawn.

"Dydi'r problemau ariannol ddim wedi clirio ond mae'r sylfaen yn gwella," ychwanegodd.

Arwyddo cytundeb
Rhywbeth arall a barodd gryn foddhad yn ystod yr wythnos oedd arwyddo cytundeb ariannol newydd gyda Chymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru gan ffurfioli y modd y bydd awdurdodau lleol yn noddi'r Eisteddfod o flwyddyn i flwyddyn.

Er nad yw hwn yn arian na newydd nac ychwanegol bydd ar gael o hyn allan mewn ffordd llawer iawn mwy di-lol.

llwch a cherrig
Wrth gwrs, fyddai eisteddfod ddim yn eisteddfod heb ei chwynion ac heb fwd i gwyno amdano ar faes Felindre trodd mynychwyr y maes eu sylw at y llwch, y cerrig a'r ffaith nad oedd porfa i gerdded arni.

Bu cwyno mawr fod y maes caregog yn un blinedig ac yn un amhosib bron i rieni gyda babanod mewn coetsus bach ac i rai mewn cadeiriau olwyn.

Ac wrth i'r wythnos fynd rhagddi gwelwyd rhai o stiwardiaid y meysydd parcio yn dewis gwisgo mygydau rhag anadlu'r llwch oedd yn codi'n gymylau.

Ond ag ystyried popeth bu Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cyffiniau 2006 yn un hwylus a didramgwydd i'r trefnwyr ac, efallai, fymryn yn ddigynnwrf i Steddfodtwyr selog.

A hynny'n peri trafferth i ohebwyr a newyddiadurwyr amddifad o esgyrn i gnoi arnyn nhw.


Mwy o storiau Dydd Sadwrn

heavy showers Abertawe
isaf 4°C  uchaf 4°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy