Roeddwn i wrthi yn cyhoeddi fy nofel gyntaf pan oeddwn i wrthi'n sgwennu hon . . . ac yn sicr yr oedd yn hwb enfawr i gael beirniadaeth dda y llynedd a gwybod fy mod yn gallu ei dal hi mewn cystadleuaeth fel hon. Rwy'n falch iawn fy mod wedi ennill eleni a chyda'r nofel hon. Mae hwnna yn bwysig i mi. Dwi meddwl, pe byddwn i wedi ennill gyda'r nofel oedd gen i'r llynedd; doedd honno ddim mor agos at fy nghalon i . Mae hon yn agos iawn ataf i achos mae gen i gariad mawr at yr ynys.