 |
 |
Fflur Dafydd yn ennill y Fedal Ryddiaith
|
 |
 |
 |

1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
|
 |
Mae bod ar Ynys Enlli yn rhywbeth unigryw iawn . . . rydym yn gwybod ei bod yn rhyw fath o gyrchfan i bererinion sy'n mynd yno i encilio er mwyn cael bod yn agos at Dduw. Mae yno hefyd bobl sy'n mynd yno i wneud gwaith ymchwil, ecolegwyr, archeolegwyr daearegwyr ac hefyd mae wedi bod yn rhan o'n traddodiad ni fod beirdd a llenorion yn mynd yno. Beth oedd o ddiddordeb i fi oedd beth sy'n digwydd pan ydych chi yn rhoi yr holl amrywiaeth yna o bobl at ei gilydd ac ar un gofod cyfyng iawn. Mae'r canlyniadau yn ddiddorol iawn. . . Yr ydych yn cael eich taflu at bobl na fyddech yn eu cwrdd fel arall. Ac mae hynny yn golygu fod unrhyw deimladau yn mynd i begynau reit eithafol, hynny yw yr ydych yn cael teimladau emosiynol cariadus reit ar y pegwn pellaf ac hefyd efallai yn teimlo'n negyddol. |
 |
|
|