Fe gymerodd hi rhyw chwech wythnos i gyd o gyfnod dwys iawn o sgrifennu . Yn amlwg roeddwn i wedi bod yn gwneud nodiadau cyn hynny ond roedd y broses sgwennu wedi digwydd yn sydyn iawn fel mae proses sgwennu pan ydych chi dan bwysau cystadleuaeth. Pan ydych chi'n teimlo'n angerddol am rywbeth mae'n haws i sgwennu ac rydw i'n un sy'n mwynhau gweithio dan bwysau beth bynnag.