BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Seremoni Apelio am gadw llywyddion y dydd a Chymry tramor
Dau gynnig gan Hywel Teifi
Bydd dau gynnig gerbron Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Gwener yn galw ar yr aelodau i newid dau o benderfyniadau diweddar Cyngor yr Eisteddfod.

Bydd yr Athro Hywel Teifi Edwards yn galw ar y Llys i ddweud wrth y Cyngor:
  • am adfer areithiau llywydd y dydd i lwyfan yr Eisteddfod
  • i ailfeddwl ynglŷn a dileu y seremoni draddodiadol i groesawu Cymry tramor ar y llwyfan.

    Mewn cyfarfod yn Aberystwyth yn gynharach eleni penderfynodd Cyngor yr Eisteddfod ddileu y ddau beth yma ond dywed Hywel Teifi Edwards fod y rhain yn benderfyniadau annoeth.

    "Dydw i ddim yn amau am eiliad gymhellion awdurdodau yrEisteddfid - does gen i ddim dileit yn y math yna o beth. Rwy'n credu eu bod wedi gweithredu ar dir egwyddor ond dydw i ddim yn cytuno â nhw felly rydw i eisiau i'r Llys cael cyfle i benderfynu ar y ddau beth yma," meddai wrth BBC Cymru@r Byd ar faes yr Eisteddfod.

    Ac i'r perwyl hwnnw cyflwynodd ddau 'rybudd o gynnig' i'w hystyried gan aelodau'r Llys.

    Am seremoni croesawu y Cymry tramor a fu'n cael ei chynnal ar ddydd Iau i seiniau Cofia'n Gwlad Benllywydd Tirion dros y blynyddoedd ers ei sefydlu ym Mhenybont-ar-Ogwr yn 1948 dywedodd:

    "Roedd y seremoni hon yn rhan o theatr yr Eisteddfod Genedlaethol a thynnwch chi yr apêl theatrig allan o'r Steddfod ac mae llawer o'r apêl wedi mynd."

    Ond pwysleisiodd nad oedd yntau yn gwbl hapus â ffurf y seremoni fel ag yr oedd:
    "Mae mor glir a'r dydd gen i y gellid gwella'r seremoni - ei diwygio yng ngwir ystyr y gair - ond nid dileu ydi diwygio," meddai gan alw am sefydlu pwyllgor i fynd ati i weld beth ellid ei wneud.

    "Os nad yw'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymestyn ei dylanwad ledled daear gyda seremoni fel hon rwy'n barnu ein bod yn colli anferth o gyfle," meddai.

    "Mae'n ddigon hawdd i ni ddweud fod rhywbeth yn arwynebol ac yn y blaen yn y seremoni ond pwy ydym ni i ddweud hynny - un o'r dadleuon yw fod y byd yn mynd yn fach a phobl yn mynd nôl ac ymlaen dipyn amlach erbyn hyn ond dadl ffals yw honna . Dim ond un llwyfan Eisteddfod Genedlaethol sydd yna ac rwyf i'n gweld y llwyfan hwnnw wedi bod yn un aruthrol bwysig lle mae drama y genedl Gymraeg yn bod ac rwyf eisiau gweld y peth yn parhau oherwydd hynny," meddai.

    "Ac hyd y gwn i, anecdotaidd hollol yw'r dystiolaeth yn erbyn y seremoni - felly mae eisiau i'r Llys benderfynu," ychwanegodd.

    Y llywyddion
    Mae yr un mor danbaid dros gadw areithiau llywyddion y dydd ar y llwyfan hwnnw hefyd gan gondemnio'r arbrawf tair blynedd y cytunodd y Cyngor arno.

    "Mae llawer o areithiau llywyddion y gorffennol yn goleuo cyflwr diwylliannol - a seicolegol hefyd - y Gymru sydd ohoni," meddai. "Rwy'n cofio'r sioc oedd hi i mi i ddarllen areithiau llywydd cyntaf cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, y Rheithor John Griffiths, Castell-nedd, a dechrau sylweddoli am y tro cyntaf gymaint o bwysau Saesneg oedd ar feddylfryd y Cymry yn y cyfnod.

    " Ond Gladstone, wedyn, yn dod i'r Wyddgrug yn 1873 ac yn codi'r genedl ar ei thraed dim ond wrth ddweud rhywbeth hollol syml fel ei fod yn credu fod y diwylliant Cymraeg yn rhywbeth gwerth chweil.

    "Ac wrth gwrs mae pawb yn gwybod am arwyddocâd Lloyd-George," meddai.

    Ond ychwanegodd nad yr areithiau "pro Gymraeg" sy'n bwysig fel rhan o'r darlun o Gymru gan i lywyddion ddwyn pwysau ar y Cymry i Seisnigo hefyd er mwyn dod ymlaen.

    "Mewn Eisteddfod yn Aerystwyth, lle'r oedd llawer o'r gynulleidfa yn uniaith Gymraeg dywedwyd wrthyn nhw; 'Os ydych chi eisiau bwyta bara brown weddill eich hoes sticiwch at y Gymraeg ond os ydych eisiau bwyta bara gwyn dysgwch Saesneg'," meddai.

    "Na, rwy'n credu fod y ddau beth - y seremoni a'r areithiau, o gymaint pwysigrwydd y mae eu dyfodol yn haeddu y math o drafodaeth y gellir ei chael yn Llys yr Eisteddfod," meddai.

  • Mwy o storiau Dydd Llun

    sunny Abertawe
    isaf 10°C  uchaf 15°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy