BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MAWRTH
22ain Gorffennaf 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 


Seremoni y Cymry tramor Cymry tramor - dim seremoni
'Colli'r unig gyfle i anrhydeddu Cymry tramor gerbron y genedl'
Eleni yw'r flwyddyn gyntaf ers bron i drigain mlynedd na fydd seremoni i groesawu 'Cymry ar wasgar' yn Eisteddfod Genedlaethol.

Mewn cyfarfod yn gynharach eleni penderfynodd Cyngor yr Eisteddfod i'r amser ddod i ddileu'r seremoni hon a gynhaliwyd gyntaf ym Mhenybont-ar-Ogwr yn 1948.

Ers rhai blynyddoedd bellach bu'r seremoni yn un lled ddadleuol a thair blynedd yn ôl daeth Dewi Jones, Llangwm, a chynnig gerbron Gyngor yr Eisteddfod yn galw am ei dileu.

Dadleuodd ei bod yn henffasiwn ac yn amherthnasol i Gymru heddiw.

Ymateb y Cyngor oedd rhoi tair blynedd o ras i'r seremoni yn y gobaith y gallai'r Eisteddfod ac Undeb Cymru a'r Byd - yr hen Undeb y Cymry ar Wasgar - greu seremoni fwy cyfoes.

Ond er peth arbrofi ni pherswadiwyd y Cyngor i bethau newid digon i wneud y seremoni yn un gwerth ei chadw.

Seremoni 2005 Dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, fod y ffaith fod nifer y gynulleidfa yn gostwng o flwyddyn i flwyddyn yn arwydd o ddiffyg.

Mae o o'r farn hefyd nad yw ymweliadau o dramor yn bethau mor anghyffredin ac arwyddocaol erbyn hyn ag oeddynt ym mlynyddoedd cynnar y seremoni.

Ond er na fu fawr o wrthwynebiad yng Nghymru i ddileu'r seremoni mae llawer o Gymry a chyfeillion i Gymru o dramor yn teimlo iddynt gael cam ac i'r Eisteddfod eu trin yn sâl.

Ymhlith y rheini mae John Pritchard, Cymro glan gloyw sy'n byw ar aelwyd Gymraeg yn Vancouver Canada ers dros bum mlynedd ar hugain ac 'arweinydd' y Cymry tramor yn Eisteddfod Eryri y llynedd - yr arweinydd olaf fel mae'n digwydd! Ysgrifennodd ef at benaethiaid yr Eisteddfod yn mynegi ei siom:
"Ofnaf," meddai, "nad oes gan aelodau Cyngor yr Eisteddfod amgyffred pa mor angerddol bwysig yw'r seremoni groeso i ni Gymry oddi cartref.

"Bod ar lwyfan yr Eisteddfod yn cael ein croesawu gan ein cyd Gymry yw uchafbwynt yr ŵyl i ni.

John O Pritchard "Am y munudau emosiynol hyn y deisyfwn fwyaf yn ystod ein hymweliadau â'r Eisteddfod."

Gwelai ef y seremoni fel "un o'r symbolau cryfaf" o "gadwyn sefydlog" sy'n bodoli rhwng Cymry ar hyd a lled y byd ac a hyrwyddir gan Undeb Cymry a'r Byd.

Mae Mr Pritchard wedi tynnu sylw hefyd at y budd ariannol sy'n dod i'r Eisteddfod o dramor gan godi'r cwestiwn a oes peryg i eraill sy'n bwriadu cyfrannu ailfeddwl yn wyneb diddymu'r Seremoni Croeso

Un a fu'n bresennol ym mhob un o'r seremonïau ydi T Elwyn Griffiths, Llywydd Anrhydeddus Undeb Cymru a'r Byd ar hyn o bryd ac ysgrifennydd yr Undeb adeg sefydlu'r seremoni gyntaf yn 1948.

Dywedodd mai ei ofid ef yw na wnaeth yr Eisteddfod fwy o ymdrech i wella'r seremoni yn hytrach na'i lladd.

"Yr ydym oll yn derbyn bod yna le i ddiwygio'r seremoni a'i newid i adlewyrchu'r byd cyfoes ac yr ydw i'n siomedig iawn na ddaethpwyd ag agweddau newydd i'r seremoni yn hytrach na'i dileu," meddai.

T Elwyn Griffiths "Dros y blynyddoedd fe dyfodd y seremoni hon i fod yn rhan annatod o'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Wedi cychwyn eithaf gwan gyda rhyw gant o gynrychiolwyr ar y llwyfan yn y seremoni gyntaf yr oedd 400 ar lwyfan yn Abertawe, 1966 a thua'r un nifer yng Nghaernarfon, 1964. Dyna'r uchelbwyntiau," meddai.

"Trwy ddileu y seremoni yr hyn yr ydym yn ei golli yw'r unig gyfle oedd yn bod i anrhydeddu y Cymry hynny o dramor sydd mpr ffyddlon i Gymru ac i'r Gymraeg mewn gwledydd eraill.

"Hwn, wedi'r cyfan oedd ein hunig gyfle i'w anrhydeddu gerbron y genedl ac yn awr yr ydym wedi ei golli.

"Rwy'n siomedig iawn ein bod yn colli'r cyfle hwnnw," meddai.



sunny Abertawe
isaf 10°C  uchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy