BBC HomeExplore the BBC
Er gwybodaeth, nid ydym yn diweddaru’r wefan hon mwyach. Rhagor o wybodaeth yma

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 


Bu'r Eisteddfod yn Abertawe o'r blaen yn 1964 a 1982 Hynodion Abertawe
Wyddech chi hyn?
  • Dywedodd y bardd o Sais, W S Landor, fod Bae Abertawe yn dlysach na Bae Napoli.

  • Bu'n ddadl mai perthyn i Abertawe y mae'r gân Clychau Aberdyfi ac mai'r teitl cywir yw Clychau Abertawe!

  • Tra bo tarddiad yr enw Cymraeg ar y dref yn gwbl amlwg gydag afon Tawe yn rhedeg i'r môr gerllaw nid felly yr enw Saesneg, Swansea. Er galw'r clwb pêl-droed yn Swans ac yn Elyrch does a wnelo'r adar hynny ddim â'r enw. Arweinydd Llychlynnaidd oedd Sweyne a ymsefydlodd yn yr ardal cyn dyfodiad y Normaniaid gan alw ei drigfan Sweyn Ea - Ynys Sweyne

  • Yr enw yn siartr y Brenin Ioan oedd Swinnzey.

  • Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg dyma ganolfan brosesu copr fwyaf y byd.

  • Codwyd tai i'r gweithwyr copr fyw ynddyn nhw gan ddiwydiannwr o'r enw Robert Morris - dyma Dreforys.

  • Teulu o Gernyw oedd y Vivians, perchenogion y gwaith copr mwyaf yn y byd yn ei ddydd.

  • Wedi i weithgarwch cynhyrchu copr symud i'r Unol Daleithiau canolbwyntiodd Abertawe ar drin tun ac erbyn 1913 yr oedd 106 o felinau tunplad yn yr ardal. Erbyn y Pumdegau dim ond un oedd ar ôl.

  • Pan nad oedd Caerdydd ond megis tref bysgota ddechrau'r ddeunawfed ganrif yr oedd Abertawe y porthladd allforio glo mwyaf yn y byd.

  • Yr enw barddol a gysylltir ag Abertawe yw Dylan Thomas - ond bomio'r dref hon adeg yr Ail Ryfel Byd oedd yr ysbrydoliaeth hefyd y tu ôl i gerdd Waldo Williams, Y Tangnefeddwyr.

  • Dylan Thomas ddisgrifiodd y ddinas - y dref yn ei adeg ef - fel "Ugly, lovely town".

  • Sefydlwyd Prifysgol Abertawe yn 1921 gyda phedair mil o fyfyrwyr ar y cychwyn.

  • Bara lawr yw'r bwyd a gysylltir fwyaf ag Abertawe - gwymon oddi ar draethau Penrhyn Gŵyr r sy'n cael ei fwyta gyda bara cheirch neu gig moch ac yn llawn protin.

  • Ym mynwent Ystumllwyniarth y claddwyd Thomas Bowdler a fu farw yn 1825. Daeth ef yn enwog am chwynu gweithiau Shakespeare o unrhyw gyfeiriadau a ystyriai yn ddi-chwaeth. Maes o law daeth y gair bowdlerize yn gyfystyr a sensro yn Saesneg.

  • I Abertawe y dihangodd y bardd Saesneg Richard Savage yn 1739 rhag y rhai yr oedd mewn dyled iddyn nhw. Ymhen blwyddyn yr oedd ar ffo eto, i Fryste.

  • Fel Ann of Swansea yr oedd Sarah Siddons yn cael ei hadnabod - awdur nifer o nofelau a drama, Zaffine, yr ymddangosodd yr enwog Edmund Kean ynddi yn Abertawe yn 1810.

  • Er mai yn Seattle y bu farw Vernon Watkins oddi ar greigiau Abertawe y gwasgarwyd ei lwch Mae llinellau i'w gofio ar fur gogleddol Eglwys Pennard: Death cannot steal the light/ Which love has kindled/ Nor the years change it.

  • Ym Mhenrhyn Gŵyr y darganfuwyd yr esgyrn enwocaf ym Mhrydain. Yn 1823 darganfuwyd ysgerbwd heb ben a alwyd gan yr archaeolegwyr yn Ddynes Goch Paviland oherwydd i goch y graig liwio'r esgyrn.
    Ar y cychwyn, credwyd mai merch o gyfnod y Rhufeiniaid oedd hi ond erbyn canol yr ugeinfed ganrif profwyd mai dyn oedd y ferch a'r esgyrn yn dyddio o Hen Oes y Cerrig, 16,000 o flynyddoedd cyn geni Crist. Dyfalwyd hefyd i'r esgyrn gael eu lliwio'n goch o bwrpas i sicrhau anfarwoldeb.

  • Yn Chwefror 1941 pan fomiodd 250 o awyrennau Abertawe a lladd 400 o bobl gellid gweld y fflamau o Sir Benfro.

  • Mae cyfeiriad at gopr yn cael ei gludo i Abertawe o fwynfeydd yn yn The Voyage of the Beagle gan CharlesDarwin.

  • Y mae canolfan Eifftioleg yn Abertawe.

  • light showers Abertawe
    isaf 8°C  uchaf 10°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy