BBC HomeExplore the BBC
Er gwybodaeth, nid ydym yn diweddaru’r wefan hon mwyach. Rhagor o wybodaeth yma

IAU
26ain Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 


Hywel Gwynfryn Hywel Gwynfryn - deugain mlynedd o'r Steddfod
Eleni, mae Hywel Gwynfryn yn dathlu deugain mlynedd ers darlledu o'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf erioed.

"Aberafan nôl yn 1966 oedd fy eisteddfod gyntaf gyda Radio Cymru - a dwi ddim wedi colli'r un ers hynny!" meddai.

"Mae pethau wedi newid llawer - yn enwedig y pafiliwn. Bydd pafiliwn leni yn sicr o ddenu sylw i'r eisteddfod gyda'r lliw llachar ac hefyd yn codi ymwybyddiaeth o ymgyrch bwysig cancr y fron."

Pererin y maes
Mae dyletwsyddau Hywel yn yr eisteddfod wedi newid cryn dipyn ers y dyddiau cynnar hefyd.

"Crwydro'r maes fel pererin â bac-pac mawr ar fy nghefn o'n i'n wneud pan ddechreuais i gan sgwrsio gyda hwn a'r llall ar y ffordd.

"Pan fyddai seremoniau'r coroni a'r cadeirio, fe fydden i'n eistedd yn y pafiliwn ac yn neidio i set y buddugwr unwaith i hwnnw godi i fynd i'r llwyfan gan y byddai rhywun o'i gydnabod neu ei deulu yn siwr fod yn eistedd bob ochr i mi. Fe fyddai 'na gyfle grêt yn ystod y ddawns flodau i gael sgwrs gyda nhw gan sicrhau fod y sylwadau cyntaf ar Radio Cymru."

Un o nodweddion arbennig Hywel yw ei fod bob amser yn paratoi'n drylwyr ar gyfer pob darllediad - efallai ei fod yn swnio'n llithrig ac yn hawdd ar yr awyr ond deillio mae hynny o ymchwil manwl.

Pe na byddai'n gweithio
Er nad ydy e'n barod i roi'r gorau i'r sylwebu eto, mae Hywel yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd ganddo amser i fwynhau'r ŵyl.

Bob amser yn paratoi'n drylwyr ar gyfer pob diwrnod "Pe na bawn i'n gweithio yn y 'steddfod fe fyddwn i drwy'r dydd bob dydd yn y Babell Lên - dwi wrth ym modd yn sŵn y gynghanedd ac yn clywed y meistri wrth eu crefft," meddai.



  • Gwell nag erioed ar y we
  • Steddfodau da a drwg
  • Steddfod y BBC

  • light showers Abertawe
    isaf 8°C  uchaf 10°C

    Rhagolygon 5 diwrnod


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy