BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2006

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2006

Lluniau

Cefndir

Canlyniadau

Cysylltiadau Eraill

Gweddarlledu

Sain

Fideo

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 


Aeeiithio o'r Maen Llog Siarad Cymraeg - apêl Archdderwydd
'Rhaid i'r Gymraeg fod yn iaith iard yn ogystal â dosbarth'
Molawd i ddysgwyr - ac un dysgwr yn arbennig - ac apêl am ddefnyddio'r iaith o ddydd i ddydd oedd gan yr Archdderwydd wrth gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Y Fflint a'r Cyffiniau ddydd Sadwrn, Gorffennaf 1, 2006.

Y dysgwr y tynnodd Selwyn Iolen sylw arbennig ato, yn ystod ei araith o'r maen llog, oedd Prif Gwnstabl Gogledd Cymru - Richard Brunstrom sydd hefyd newydd gael ei dderbyn yn aelod er anrhydedd o Orsedd y Beirdd ar sail ei ymrwymiad i'r Gymraeg.

Richard Brunstrom gyda Bethan Jones Parry, pennaeth y wasg a chysylltiadau cyhoeddus Heddlu Gogledd Cymru Yr oedd ei ganmoliaeth yn llaes - a hynny, meddai, er iddo gael tri phwynt cosb ar ei drwydded yrru yn ddiweddar gan rai o weision y Prif Gwnstabl!

Plismyn Cymraeg
"Gaf i dalu teyrnged i Heddlu Gogledd Cymru," meddai Selwyn Iolen.

"Rydan ni yn barod iawn i'w beirniadu nhw yn aml ond ers tua blwyddyn bellach, mae'n ofynnol i bob un sy'n ymuno â Heddlu Gogledd Cymru basio prawf mewn Cymraeg elfennol, cyn iddyn nhw gael cynnig swydd.

"Hefyd maen nhw'n cael eu hannog i ddysgu'r iaith yn fwy trwyadl yn ystod cu cyfnod prawf o ddwy flynedd.

"Mae'r Prif Gwnstabl ei hun wedi dysgu'r iaith, ac mae o'n defnyddio'r iaith am ei bod hi, medda fo, 'Yn ddyletswydd arna i wneud hynny, am fod Cymru yn wlad ddwyieithog.' "Gresyn na fyddai mwy o benaethiaid gwasanaethau cyhoeddus yn dilyn ei esiampl o," meddai'r Archdderwydd.

Yr oedd yn amlwg mai'r hyn a wnaeth yr argraff fwyaf ar yr archdderwydd ynglŷn â champ Mr Brunstrom oedd ei barodrwydd i ddefnyddio'r iaith a phwysleisiodd yn ei araith nad yw dysgu'r iaith yn ddigon ynddo'i hun a galwodd am ochel rhag sefyllfa lle mae plant yn defnyddio'r iaith yn nosbarthiadau ysgol ond nid ar yr iard

. Meddai: "Un o'r profiadau mwyaf dymunol a gefais i yn ystod Eisteddfod Eryri oedd gwahoddiad i gyflwyno'r gwobrwyon yn Adran y Dysgwyr.

"Mi ddois i oddi yno yn teimlo'n hapus iawn bod yna rai o ddifri yn awyddus i feistroli'n hiaith ni, ac i gystadlu yn ein heisteddfod ni, ac i ddefnyddio'n hiaith ni yn naturiol yn eu bywydau bob dydd.

Dros ugain mil
"Gwych hefyd ydi eae1 darllen ffrwyth eu llafur yng nghyfrol y Cyfansoddiadau bob blwyddyn. "Mae'n galondid, bod yna dros ugain mil o oedolion yn dilyn cyrsiau Cymraeg.

"Wrth gwrs mae o'n galondid - ond rhaid i ni sylweddoli yr un pryd, mai dim ond un y cant yn unig, ydi'r nifer yna o oedolion nad ydynt yn siarad Cymraeg yng Nghymru a dydi pob un o'r ugain mil yna ddim yn parhau â'u cyrsiau. Ac eto yn ôl yr adroddiadau, mae yna lawer mwy yn datgan eu diddordeb a'u hawydd i ddysgu'r iaith.

"Cyfeiriwyd mewn llythyr yn y wasg rai wythnosau'n ôl at ymgyrch Bwrdd yr Iaith a'r Gweinidog dros iaith a diwylliant i geisio denu mwy o'r mewnfudwyr i ddysgu'r iaith. Gwych. Ardderchog.

"Ond â yw'r Bwrdd yn barod i sicrhau bod yna ddigon o gyllid ar gael a digon o diwtoriaid profiadol i hyfforddi'r dysgwyr yn rhad ac am ddim.

"Mae yna nifer helaeth o'r di-Gymraeg wedi datgan diddordeb mewn dysgu'r iaith, pe byddai amgylchiadau ar eu cyfer yn dderbyniol.

Dibynnu ar ein plant
"Mae dyfodol ein hiaith ni yn dibynnu ar ein plant a'n pobol ifanc ni yn fwy na neb. Llawenydd ydi ymweld ag ambell i ysgol a chlywed y plant, gan gynnwys nifer fawr o ddysgwyr yn parablu'n naturiol yn y Gymraeg. ond, mae'n siom hefyd o fynd heibio ambell i ysgol - a hynny yng nghanol ein hardaloedd Cymreicaf - a sylwi mai Saesneg ydi iaith yr iard.

Aelodau o'r Orsedd yn ystod y seremoni "Os ydi plant yn chwarae drwy gyfrwng y Saesneg yna, yn anffodus, dydi'r Gymraeg ddim yn iaith fyw naturiol iddyn nhw.

Cymraeg yn y dosbarth. Saesneg yn yr iard Yn hollol groes i ddyddiau'r Welsh Not.

"Does 'na ddim pwrpas i ddysgu iaith, heb wneud pob ymdrech i'w defnyddio hi ar bob achlysur.

Canmol GYTS
"Yn Y Faner Newydd yn ddiweddar, fe gyfeiriwyd at fudiad iaith newydd i ddisgyblion ysgolion Cyfun. Yr arwyddair ydi; 'Gwna Ymdrech Tra'n Siarad', sef GYTS.

"Dechreuodd y mudiad yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth, ac fe agorwyd cangen hefyd yn Ysgol Gyfun Gwyr, Abertawe.

"Yr apêl ydi i ysgolion Cymru gyfan fanteisio ar y cyfle i greu mudiad fel GYTS yn eu hysgolion hwy gyda'r gobaith y bydd yr iaith yn goroesi fel iaith gyfoes, ac yn tyfu i fod yn iaith fwy naturiol mewn cymdeithas, yn hytrach na bod yn iaith addysg yn unig.

"Arwyddair Ysgol Gymraeg Evan James, Pontypridd,- awdur geiriau ein Hanthem Genedlaethol ydi- 'Bydded i'r hen iaith barhau. Gresyn na fyddai hwnna yn arwyddair i bob ysgol yng Nghymru.

Profiad bardd y Goron
"Talodd Bardd y Goron y llynedd - y ddysgwraig gyntaf i ennill Coron y Brifwyl deyrnged i'w chyd-ddisgyblion yn yr ysgol ac i'w chyd fyfyrwyr yn y Coleg, am iddyn nhw fynnu siarad Cymraeg gyda hi bob amser, a thrwy hynny ei gwneud hithau yn Gymraes.

Christine James - y ddysgwraig gyntaf i ennill y Goron "Mae'n hanfodol i ni sy'n rhugl yn y Gymraeg siarad yn Gymraeg gyda'r dysgwyr. Dyna ydi eu dymuniad.

"Mae'n bwysig i blant ar iard yr ysgol wneud hynny. I ddisgyblion a myfyrwyr ein colegau, ac i ninnau fel oedolion pryd bynnag yr ydan ni'n cymdeithasu â dysgwyr sy'n wirioneddol awyddus i ddysgu'n hiaith ni.

Wrth gwrs mae'n bwysig dysgu iaith ond mae'n bwysicach ei defnyddio hi.

"Marw fydd tynged iaith oni ddefnyddir hi.

"Oes yna ddeddf iaith ar y gorwel? Sut ddeddf a gynigir i ni tybcd? Cofiwn eiriau Hywel Teifi Edwards yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1992, 'Rhaid cael deddf i sicrhau hawl y Gymraeg i'r union statws a'r Saesneg. Dim mwy a dim llai.'

"Ac yn y flwyddyn pryd rydan ni'n dathlu pen-blwydd ein Hanthem Genedlaethol yn gant a hanner oed, mae'n bwysicach i ni ddatgan heddiw yn fwy croyw nag erioed, O bydded i'r hen iaith barhau."

Pryder Steddfod
Yn amlwg, cyfeiriodd yr Archdderwydd at yr amhendantrwydd â fu ynglŷn â lleoliad Eisteddfod 2007.

"Wrth ffarwelio a'n gilydd ar Barc y Faenol y llynedd 'roedd nifer ohonom yn bur bryderus ynglŷn â dyfodol ein Prifwyl. Tybed fyddai yna Eisteddfod i'w chyhoeddi ar gyfer 2007! Ac os y cyhoeddid Eisteddfod, ymhle tybed y cynhelid hi?

"Wel rydan ni yma â gwên ar ein hwynebau, yn llawenhau y bydd yna Eisteddfod yn 2007 ac mai yma ar dir Cymru y cynhelir hi.

"Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau ac mae'n hyfryd cael cyhoeddi hefyd bod 'y cyffiniau' yn cynnwys y Cymry dros y ffin ar Lannau Merswy, Cilgwri, Caer a Manceinion, ac rydan ni'n diolch iddyn nhw am eu dymuniad a'u parodrwydd i gefnogi'r Eisteddfod," meddai.

Cytundeb ariannol
Cyfeiriodd hefyd at y cytundeb arianni newydd gydag awdurdodau lleol yng Nghymru.

Yr Archdderwydd yn derbyn y corn hirlas yn ystod y seremoni "Ga i hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch, am y tro cyntaf, o bosib, yn gyhoeddus, i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, am gytuno i sicrhau y bydd pob Cyngor o hyn allan yn cyfrannu'n flynyddol tuag at gost y Brifwyl, fel na fydd yna faich ariannol afresymol bellach ar unrhyw Gyngor yng Nghymru, a fydd yn awyddus i gynnig cartref i'r Eisteddfod. Mae'n hawdd cwyno yn tydi?

"Mae angen i ni ddiolch ar brydiau yn ogystal," meddai.


sunny Abertawe
isaf 10°C  uchaf 15°C

Rhagolygon 5 diwrnod


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy