BBC HomeExplore the BBC
Nid yw'r dudalen hon wedi ei diweddaru ers tipynFe'i gadawyd yma er gwybodaeth.Rhagor o wybodaeth

MERCHER
24ain Medi 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Richard Morris Jones Seremoni agoriadol
Dwylo allan am arian
Nid cymylau glaw yn unig oedd yn hofran uwchben seremoni agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Eryri nos Wener.

Yr oedd cysgodion amlwg argyfwng ariannol yr Eisteddfod hefyd gyda phob un o'r tri siaradwr yn taro post i bared rhyw gorff neu'i gilydd glywed.

Ar lwyfan pafiliwn a oedd yn llawnach na'i gwelwyd ers blynyddoedd ar gyfer seremoni a chyngerdd agoriadol yr oedd y dwylo allan am gefnogaeth ac arian.

Her i'w hwynebu
Ar ôl canmol yr ymdrech leol anhygoel i godi arian ac wrth ddarogan Eisteddfod lwyddiannus - gyda'r tywydd yn codi ddydd Sul! - dywedodd Richard Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith:

"Yr ydw i'n teimlo fod gennym ni her i'w hwynebu yma yn Eryri ac yn gobeithio ein bod ni eisoes wedi wynebu yr her honno - her i ddyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol a dwi'n credu y byddwn ni erbyn diwedd yr wythnos yma wedi profi beth yw gwerth eisteddfod fawreddog, ddiwylliannol o'r natur yma."Ac oni bai fod yr awdurdodau yn deall ar ddiwedd yr wythnos yma fod angen cymorth ar un waith a rhoi'r gorau i siarad yna fyddan nhw byth yn deall."

Chwaraeon a diwylliant

Fe'i dilynwyd ef gan R Alun Evans, Llywydd Llys yr Eisteddfod a'r gŵr sydd wedi bod yn wfftio defnyddio'r gair "argyfwng" i ddisgrifio cyflwr presennol y Brifwyl.

R Alun EvansOnd yr oedd yn amlwg oddi wrth ei araith yntau hefyd mai gŵyl yn chwilio am gymorth yw hon ar hyn o bryd ac yr oedd awgrym o gerydd yn ei lais wrth gymharu pa mor hael yw'r Cynulliad Cenedlaethol gyda chwaraeon o gymharu a'r ŵyl ddiwylliannol hon.

Gan ddyfynnu o erthygl gan Dylan Iorwerth dywedodd i'r Cynulliad gynnig deng miliwn i Chwaraeon yr Ynysoedd na fyddant yn dod i Fôn wedi'r cyfan - "gwerth ugain mlynedd o eisteddfod," meddai.A hynny, yn ôl Mr Iorwerth am fod chwaraeon yn PC y dyddiau hyn.

"Ond beth am y gwerth o gynnal iaith a diwylliant?" ychwanegodd.

Yr ateb
Tynnodd R Alun Evans hefyd sylw at nifer o bethau cadarnhaol.

"Mae'r ateb i ddyfodol yr ŵyl yma gan bawb. A dyna'r drwg, mae gan bawb ei syniad ei hun. Ond dyna hefyd ei daioni hi - pawb yn teimlo perchnogaeth ohoni hi a'r hawl i fynegi barn. A hir y parhaed hynny.

"Ond ar yr un pryd mae'n deg disgwyl i'r rhai hynny sydd mor barod i ddangos consyrn hefyd i ymaelodi â Llys yr Eisteddfod, i geisio am le ar Gyngor yr Eisteddfod a rhoi eu harbenigedd i bwyllgor gwaith yr Eisteddfod oherwydd dyna yn y pen draw lle mae gwneud penderfyniadau," meddai.

"Mae yna fynegi barn am leoliad, am ei hyd a'i lled. Mae hi wedi mynd yn rhy fawr, yn rhy hir. Cwtogwch er mwyn arbed arian - heb ystyried weithiau yr incwm y byddech chi'n ei golli pe byddech chi yn torri . . .

"Ac am ei chynnwys wedyn mae pobl yn meddwl ei bod yn rhy hen ffasiwn - moderneiddiwch, gwnewch fwy ar gyfer y di-Gymraeg. Llai o hyn, mwy o'r llall. Gormod, dim digon, ar y teledu. Mae'n rhy ddrud, ble'r aeth y torfeydd?

'Mae torfeydd'
"Wel rŵan, nid dyma'r lle i Lywydd y Lys ateb y cwestiynau yna ond mi atebai yr olaf ar ei ben," meddai.

"Din ond eich atgoffa fod yna fwy yn y pafiliwn heno nag sydd wedi bod ers nifer o flynyddoedd," meddai gan ychwanegu i bron i 150,000 ddod i Gasnewydd y llynedd lle nad oedd ond dau y cant o'r boblogaeth leol y medru Cymraeg.

"Ydych chi'n cofio'r cwestiwn mawr ar cyfryngau ddwy flynedd yn ôl? Ble mae Meifod. Wel fe ddaru na 175,000 ffeindio allan!

"Allwn ni dorri'r record eleni?," holodd gan ddarogan tyrfaoedd "yn eu hugeiniau o filoedd".

Cyfraniadyr Eisteddfod
"Mae cyfraniad Eisteddfod Genedlathol Cymru i fyrdd o fudiadau a sefydliadau ac undebau a chylchoedd yn anfesuradwy ochr yn ochr â chyfraniad gwyliau eraill fel Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, y Sioe Frenhinol a Gŵyl Ryngwladol Llangollen," meddai.

"Fe wnawn ni eleni eto ein cyfraniad i ddiwylliant Cymru, ychwanegodd.

Awdurdodau lleol
Ar yr ymdrech i sicrhau nawdd parhaol gan awdurdodau lleol yr hoeliodd Arwel Jones, Cadeirydd Cyngor Sir Gwynedd, ei sylw ef.

"Mae cymorth ariannol pob cyngor yn ei dro wedi bod yn gwbl angenrheidiol tuag at y dasg anodd o geisio sefydlogi sefyllfa ariannol yr Eisteddfod a thrwy hynny sicrhau ei dyfodol o flwyddyn i flwyddyn," meddai.

"Mae'n loes calon, felly, inni glywed fod problemau cyllidol ambell i gyngor sir yn golygu nad oes modd i'r Eisteddfod gael gwahoddiad i rai ardaloedd yn y dyfodol.

"Mae hyn yn achosi pryder mawr am ddyfodol yr eisteddfod ac am ei lleoliad mewn dwy flynedd. Ond y mae yna ateb i'r broblem honno," meddai gan gyfeirio at gynllun sy'n cael ei wyntyllu i bob cyngor gyfrannu yn flynyddol at gronfa ganolog.

"A bod y gronfa hon wedyn ar gael i bob awdurdod a fyddai'n gefnogol i gais llwyddiannus i gynnal yr eisteddfod yn eu hardal," meddai.

"Cyfran fechan iawn o gyllideb unrhyw gyngor unigol fyddai'r cyfraniad hwnnw ond byddai'r cyfraniad ar draws Cymru yn galluogi i bob ardal yn ei thro wahodd yr Eisteddfod," meddai.

Datrys y broblem
"Fe fyddai hynny yn datrys y broblem. Fe fyddem yn gwybod i ble y byddai yn mynd a fyddai ddim yn rhaid i ni byth eto ystyried symud yr Eisteddfod Genedlaethol, o bob peth, y tu allan i Gymru er mwyn sicrhau ei dyfodol hi," meddai i gymeradwyaeth y gynulleidfa.
"Gawn ni ymhyfrydu felly yn y datganiad a wnaethpwyd heddiw gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei bod yn bwriadu sefydlu gweithgor gydag Alun Pugh a swyddogion y Steddfod er mwyn hyrwyddo'r syniad hollbwysig hwn," meddai.

Galwad i weithredu
"Yn y cyfamser gadewch i ni obeithio y bydd yr alwad am weithredu fel hyn yn cyrraeddd aelodau pob cyngor sir drwy Gymru, yn cyrraedd pob aelod o'r Cynulliad cenedlaethol ac yn arbennig yn cyrraedd ein Prif Weinidog sydd i fod yn Gymro ac eisteddfodwr brwd ac yn fawr ei ddylanwad ar rai nad ydyn wedi cynhesu hyd yn hyn at y syniad yr ydym ni'n i drafod.

"Gadewch inni i gyd yn ein gwahanol ffyrdd a chan ddefnyddio ein gwahanol gysylltiadau a dylanwadau alw yn gwbl unfrydol am gael gwireddu'r freuddwyd," meddai.


Mwy o storiau y Penwythnos cyntaf


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy