BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod 2005

BBC Homepage
Cymru'r Byd

»

Eisteddfod 2005

Mwy o'r Maes
Lluniau'r
Wythnos


Cefndir

Newyddion

Cysylltiadau Eraill

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 


Huw Meirion Edwards - bardd y gadair 2004 I'r Orsedd
Eu derbyn yn aelodau newydd o Orsedd y Beirdd

I'w hurddo fore Llun Awst 1 ar gyfrif eu graddau mewn Cymraeg neu Gerddoriaeth:
Urdd Llenor
Winni Jones BA, Dinas Cross, Trefdraeth, Sir Benfro
Manon Elen Roberts, BA, Porthaethwy, Ynys Môn
Delian Haf Williams, BA, Porthaethwy, Ynys Môn

Urdd cerddor
Claire Louise Burgess BA, Bethesda, Gwynedd
Gareth Wyn Davies BMus, Bethesda, Gwynedd.

Urddau er Anrhydedd. Bore Llun Awst 1 Enillwyr Llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch 2004:
Jason Walford DaviesUrdd Ofydd er Anrhydedd
Lois Arnold, Y Fenni - Dysgwraig y Flwyddyn
Carwyn John, Bethel, Caernarfon - Enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn
Martin Lloyd, Casllwchwr, Abertawe - Enillydd Gwobr Goffa David Ellis

Urdd Derwydd Er Anrhydedd
Annes Glynn Y Prifardd Jason Walford Davies, Bangor - Bardd y Goron

Y Prif Lenor Annes Glyn, Rhiwlas, Bangor - Enillydd y Fedal Ryddiaith

Y Prifardd Huw Meirion Edwards - Enillydd y Gadair

I'w derbyn i Urdd Derwydd er anrhydedd ar gyfrif gwasanaeth maith ac arbennig i'r Orsedd a'r Eisteddfod:
Eirlys Dwyryd, Rhuthun (Eirlys Dwyryd)
Gwawr Owen, Caerdydd (Gwawr Arthen)
Beti Puw Richards, Y Bala (Bethan Rhys)

I'w hurddo fore Gwener Awst 5:
Urdd Ofydd er Anrhydedd Gwisg werdd
J. Mansel Charles, Llanegwad, Caerfyrddin: Cyn athro Cymraeg Ysgol Uwchradd Dyffryn Aman. Y mae newydd ymddeol ar ôl gwasanaethu Undeb Amaethwyr Cymru yn Sir Gâr am dros 20 mlynedd, a bu'n ymwneud â Mudiad Ffermwyr Ifanc y sir am 40 mlynedd. Cyfrannodd yn sylweddol i fywyd diwylliannol Dyffryn Tywi.

Ann Margaret Davies, Llangybi: Prifathrawes egnïol ac ymroddedig Ysgol Gymunedol Llangybi. Hybodd y Gymraeg a'r diwylliant yn yr ardal gan adael ei hôl yn ddwfn yno. Chwaraeodd ran amlwg yng ngweithgaredd yr Urdd yn y fro am dros 30 mlynedd a bu'n warden Eglwys Sant Cybi 2000-2002.

Eulanwy Davies, Llangollen: Cyn bennaeth Adran Cerdd y Merched Y Drenewydd a phennaeth Adran Gerdd Ysgol Gyfun Dinas Brân Llangollen. Chwaraeodd ran amlwg yng ngweinyddiaeth Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen lle bu'n Drefnydd Cerdd, yn aelod o'r Bwrdd Sefydlog ac yna'n Gyfarwyddwr Cerdd.

Mildred Emily Hughes, Llangefni, Ynys Môn: Bu'n aelod o staff y Llys Sirol yn Llangefni am 30 mlynedd a hi yw pennaeth uned yr iaith Gymraeg yno. Gwelodd lawer o newidiadau o ran tynged y Gymraeg yn y llys a bu iddi le anrhydeddus yn y newidiadau a gafodd eu gwneud yn dilyn y statws deilwng a roddwyd i'r iaith yn y llysoedd.

Janet James, Talyllychau, Sir Gaerfyrddin: Treuliodd ei hoes ym mro ei mebyd. Bu'n bennaeth yr Adran Gymraeg ac yn ddirprwy Brifathrawes yn Ysgol Uwchradd Hendy-Gwyn ar Daf. Bu'n weithgar gyda'r Urdd a chafodd ei disgyblion lwyddiant cyson yn Eisteddfodau'r Urdd. Bu'n aelod o Gapel Esgairnant drwy ei hoes ac yn organyddes yno. Hi oedd y ferch gyntaf i'w hethol yn flaenor yno. Mae'n gyn-lywydd Henaduriaeth Gogledd Myrddin.

Aled Jones, Barnes, Llundain: Daw o Landegfan, Ynys Môn. Daeth i enwogrwydd pan yn blentyn a'i lais anghyffredin yn gwefreiddio cynulleidfaoedd ledled Cymru. Mae'n adnabyddus hefyd fel cyflwynydd teledu. Roedd ei gefnogwyr yn hapus iawn i'w weld yn dychwelyd i'r llwyfan cerdd.

Dewi Jones, Penygroes, Arfon: Naturiaethwr a gyflwynodd gannoedd o blant ac oedolion i fyd natur yn Nyffryn Nantlle. Cyfoethogodd gylchgronau natur gyda'i erthyglau am blanhigion, naturiaethwyr a byd botaneg. Mae'n un o'r Cymry prin sydd wedi ysgrifennu llyfrau am y pwnc. Gwasanaethodd y Gymdeithas Hanes Lleol ers blynyddoedd a bu'n cynnal dosbarthiadau am fyd natur.

Y Parchedig J. Eric Jones, Aberdâr: Yn enedigol o bentref Cribyn ger Llanbed, ymgartrefodd yn Aberdâr ar ôl iddo gael ei sefydlu yn weinidog ar gapel Undodaidd Highland Place a'r Hen Dŷ Cwrdd yn 1962. Mae'n Gadeirydd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ac ymgyrchodd ar hyd ei oes dros sefydlu ysgolion Cymraeg yn yr ardal. Am dros 20 mlynedd bu'n Gadeirydd Pwyllgor Sir Morgannwg Ganol o fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg a bu'n Gadeirydd Cenedlaethol y mudiad hwnnw hefyd. Bu'n Llywydd ei enwad ym Mhrydain yn 1989.

Hefin Jones, Llanrug: Brodor o Ddeiniolen, Arfon. Wrth ei alwedigaeth mae'n nyrs mewn ysbyty. Ef yw prif weinyddwr ward Beuno (ward ddamweiniau) yn Ysbyty Gwynedd. Mae'n aelod o Fand Deiniolen, bu'n hyfforddwr Seindorf Ieuenctid Deiniolen lle bu'n hyfforddi degau o ieuenctid, ac erbyn hyn ef yw Arweinydd y Seindorf. Mae'n Eisteddfodwr brwd ac ef yw Llywydd ac Ysgrifennydd Eisteddfod Gwaungynfi ers 1991.

Y Parchedig Eirian Wyn Lewis, Mynachlog-ddu: Gweinidog gyda'r Bedyddwyr am chwarter canrif yn ardal y Preselau. Bu'n gefnogol i achosion yn ymwneud â'r Gymraeg - Urdd Gobaith Cymru. Fforddolion Dyfed, Cymanfa Ganu cylch godre'r Preselau ac ysgrifennydd gweithgar Cwrdd adran Gogledd Penfro. Beirniad adrodd yn Eisteddfodau'r Urdd ac arweinydd eisteddfodau yn y sir. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Cymry Ariannin a bu'n Gadeirydd y Gymdeithas ddwy waith.

Eluned Mair Porter, Llangadfan: Athrawes wrth ei galwedigaeth. Bu'n arolygwr Pabell Celf a Chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol am dros 10 mlynedd. Rhoddodd wasanaeth nodedig i Gymdeithas Edward Llwyd ac fel cynrychiolydd Cangen Plaid Cymru Gogledd Maldwyn ar y Cyngor Cenedlaethol.

Alwena Morfudd Power, Casnewydd: Athrawes a fu'n gefn i ddisgyblion a fynnai addysg yn y Gymraeg. Bu'n dysgu yn Ysgolion Cymraeg Casnewydd a Chwmbran ac Ysgol Uwchradd Gwynlliw. Bu'n gweithio'n galed i sicrhau llwyddiant Eisteddfodau Cenedlaethol Casnewydd 1988 a 2004.

Gladys Pritchard, Caergybi: Yn enedigol o Gaergybi, Ynys Môn fe wasanaethodd ei hardal yn helaeth. Bu'n Swyddog Gweinyddol Ysgol Uwchradd Caergybi am chwarter canrif. Y mae rhestr ei gwaith gwirfoddol yn helaeth - gan gynnwys Eisteddfodau Cenedlaethol Môn, Gorsedd Beirdd Môn, Cymdeithas Brodwaith Cymru (Cadeirydd Cangen Môn ac Arfon) a Merched y Wawr. Gwasanaethodd ardal Caergybi ac Ynys Môn yn ddiarbed.

Arwyn Roberts, Rhosgadfan: Ffotograffydd Yr Herald, Caernarfon. Bu'n gweithio gyda'r Herald am 30 o flynyddoedd. Dechreuodd weithio fel ffotograffydd yn Eisteddfod Caernarfon 1979 ac oddi ar hynny bu'n gweithio yn Eisteddfodau'r De a'r Gogledd - yr unig ffotograffydd sydd yng nghlwm â phapurau lleol i wneud hyn. Y mae'n wyneb cyfarwydd mewn Eisteddfodau bach a mawr ynghyd â Gwyliau Cenedlaethol eraill. Ymroes ei allu i gofnodi amryweddau ar ddiwylliant y genedl.

Richard Tudor, Pwllheli: Yn frodor o Bwllheli y mae traddodiad morwrol Pen Llŷn yn llifo'n gryf yn ei waed. Pencampwr llywio cychod hwylio. Bu gan ei deulu gyfres o wahanol gychod, a bu ers yn blentyn yn eu hwylio ym Mae Ceredigion a throsodd i Iwerddon. Ac yntau ond yn 17 oed cychwynnodd fusnes gwneud hwyliau ym Mhwllheli ac wedi 20 mlynedd o brofiad cafodd ei ddewis yn 1992 i fod yn gapten "British Steel II" mewn ras o amgylch y byd - mordaith arwrol a welodd wynebu gwyntoedd dychrynllyd Cefnfor y De gan lanio yn ôl yn Southampton yn drydydd yn y ras. Fe'i dewiswyd eilwaith i hwylio'r "Nuclear Electric" yn ei ail ras 1996-7 o gwmpas y byd gan ddychwelyd yn llwyddiannus.

Jeannie Wyn Williams, Seland Newydd: Yn enedigol o Minsterley, Swydd Salop, addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg Llangollen a Choleg Prifysgol Bangor lle bu'n astudio Mathemateg. Ymfudodd i Seland Newydd yn 1966 ac mae'n byw yn Rotorua. Mae'n un o'r aelodau a sefydlodd Gymanfa Ganu Gymraeg Seland Newydd a hi yw Ysgrifennydd y Gymanfa ers 10 mlynedd. Hi yw Swyddog Cyswllt holl Gymdeithasau Cymraeg Seland Newydd. Mae'n ymwelydd cyson â'r Eisteddfod Genedlaethol.

Penri Williams, Caerdydd: Yn enedigol o Borthmadog, ac yntau'n naw oed symudodd y teulu i Lantrisant ac yna i Gaerdydd. Wrth ei alwedigaeth bu'n beiriannydd trydan i'r Bwrdd Cynhyrchu Trydan. Ar ôl ymddeol y mae bellach yn Swyddog Technoleg Gwybodaeth i Fenter Iaith Morgannwg a Gwent. Bu'n Gadeirydd a Thrysorydd Menter Iaith Rhondda Cynon Taf. Bu'n aelod o Gôr Godre'r Garth ac yn ysgrifennydd gweithgar am flynyddoedd. Bu'n aelod o Fwrdd Golygyddol y papur bro "Tafod Elai" ac ers 18 mlynedd ef yw'r Golygydd. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd Cymraeg Taf ac Elai.

Y diweddar Ronald Wyn Williams, Llanllechid (Ron Hogia Llandegai): Fe'i ganed yn Nyffryn Ogwen ac yno y bu'n trigo bron gydol ei oes. Addysgwyd ef yn ysgolion Bethesda cyn dilyn cyfnod o brentisiaeth a dod yn saer coed medrus. Un o'i brif ddiddordebau oedd canu, ac yn ei arddegau cafodd gyfle i feithrin ei ddawn yng Nghapel Mawr Bethesda mewn cyfarfodydd a drefnwyd gan y Parchedig Ieuan S. Jones. Bu'n aelod o gorau lleol gan gynnwys blynyddoedd o wasanaeth i Gôr Meibion Y Penrhyn. Ei gyfraniad mawr, fodd bynnag oedd i ganu ysgafn Cymraeg, gan iddo arloesi yn y byd hwnnw drwy ffurfio Criw Sgiffl Llandegai gyda nifer o'i gyfeillion yn 1957. Fel prif leisydd Hogia Llandegai daeth ei lais unigryw a'i wyneb yn adnabyddus drwy Gymru ben baladr - a hynny dros ran helaeth o bum degawd.

Urdd Derwydd er Anrhydedd (Gwisg wen)
M Paul Bryant-Quinn, Aberystwyth: Ganed yn Ruislip, Middlesex. Astudiodd athroniaeth am ddwy flynedd cyn symud i'r Eidal a chwblhau gradd ym Mhrifysgol Rhufain yn 1982. Tra oedd yno, dechreuodd ymddiddori yn y Gymraeg a'i llenyddiaeth. Dyfarnwyd iddo radd Dosbarth Cyntaf ym Mangor yn 1989. Penodwyd ef yn 1996 yn gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Ymhlith ei waith ysgolheigaidd gwnaeth astudiaeth destunol a beirniadol o waith Ieuan Brydydd Hir ac ar hyn o bryd y mae'n paratoi astudiaeth debyg o waith Sion Cent.

Eleri Carrog, Caernarfon: Drwy ei galwedigaeth a'i hymroddiad hi y sefydlwyd Cefn ym mis Gorffennaf 1985. Rhoed yn helaeth o'i hamser a'i harian i ddatblygu gwaith y mudiad yng Nghymru gan ei gysylltu â Mudiad Hawliau Dinesig Cydwladol yn effeithiol ac y mae dyled llu o siaradwyr Cymraeg iddi mewn cyflogaeth, gwasanaeth cymdeithasol, achosion cyfreithiol, ieithyddol, addysg ac ymlaen yn fawr. Ymhle bynnag y bygythir y Gymraeg bydd hi yno. Iddi hi, er enghraifft y mae'r diolch pennaf am argyhoeddi'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol fod anffafriaeth hiliol ar saith iaith mor wrthun ag anffafriaeth ar sail lliw croen.

Dr Dyfed Elis-Gruffydd, Sir Benfro: Daearyddwr a daearegwr. Bu'n ddarlithydd, tiwtor, adolygydd, ysgrifwr, ymchwilydd, cyfarwyddwr cyhoeddi, cyfieithydd ac arholwr allanol. Bu'n gyfarwyddwr cyhoeddi Gwasg Gomer am 12 mlynedd; yn ddarlithydd rhan-amser mewn daearyddiaeth yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Bu'n gwydrwr ac arweinydd teithiau Cymdeithas Edward Llwyd, yn crwydro tirweddau folcanig a rhewlifol mewn gwledydd tramor, megis Gwlad yr Iâ, yr Auvergne a Le Isole Eloie ac ati. Sgrifennodd lawr. Cyhoeddodd yn helaeth lyfrau, llyfrynnau, ysgrifau ac erthyglau o'i waith daearegol geomorffelegol ac amgylcheddol ac am faterion diwylliannol Cymru. Polymath yn wir.

Dr Jerry Hunter, Penygroes, Caernarfon: Cymro mabwysiedig yw'r Americanwr. Yn frodor o Cincinnatti a ddysgodd Gymraeg ar gwrs Wlpan ym Mhrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan a graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Dychwelodd i'w famwlad lle'e enillodd ddoethuriaeth o Adran Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Harvad cyn ei throi drachefn am Gymru ar ôl ei benodi'n ddarlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Cymru Caerdydd. Y mae bellach yn Uwchddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Cymru Bangor. Bu'n olygydd ar gylchgrawn yr Academi Gymreig, Taliesin ac enillodd ei gyhoeddiad Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref America (2003) deitl Llyfr y Flwyddyn 1004.

Eirlys Britton a Cliff Jones, Caerdydd: Ganed Eirlys Britton yng Nghaerdydd a Cliff Jones yn Y Bala. Ffurfiwyd o dan eu harweiniad medrus un o dimau Dawnsio Gwerin mwyaf llwyddiannus ac arloesol Cymru, Dawnswyr Nantgarw. Mae'r dawnswyr wedi cipio'r brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol naw o weithiau ers 9186 ynghyd â gwobrau lu i glocswyr unigol a grwpiau o ddawnswyr. Daeth Dawnswyr Nantgarw i'r brig yng nghystadleuaeth Dawnsio Gwerin Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1989. Bu'r grŵp yn cynrychioli Cymru ar deithiau mewn nifer o wledydd megis China a Hwngari. Bu'r grŵp yn fuddugol yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon droeon ac enillodd un o'r prif wobrau yng nghystadleuaeth Dawnsio Gwerin y byd yn Mallorca yn 2003. Trwy ymchwilio'n ddiwyd i gefndir dawnsfeydd a gwisgoedd traddodiadol mae Eirlys a Cliff wedi gwneud cyfraniad aruthrol a nodedig i hyrwyddo dawnsio gwerin nid yn unig yng Nghymru ond trwy'r byd benbaladr.

Dorothy Jones, Llangwm: Yn enedigol o Drawsfynydd bu'n byw yn Llangwm, Uwchaled ers blynyddoedd. Athrawes wrth ei galwedigaeth bu ei gweithgarwch diwylliannol yn lleol ac yn genedlaethol yn eang. Bu'n hyfforddi partïon llefaru ac yn feirniaid llefaru a llên mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol, cylch, sir a chenedlaethol yr Urdd, yr Ŵyl Gerdd Dant, Eisteddfodau Ffermwyr Ieuanc a'r Eisteddfod Genedlaethol. Cyfansoddodd llawer o gerddi ar gyfer plant ynghyd â cherddi ar gyfer caneuon y diweddar Gilmor Griffiths a bu'n awdur sgriptiau sioeau cerdd Ysgol Glan Clwyd megis William Morgan, Jac Glan y Gors, H M Stanley a chyfieithu geiriau caneuon Joseff a'i Gôt Amryliw i'w perfformio yn yr ysgol. Gwraig ddawnus a'i chyfraniad yn lleol a chenedlaethol yn sylweddol iawn.

Yr Athro Emrys Jones, Berkhamstead, Sir Buckingham: Ganed ef yn Aberaman, Aberdâr. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Aberdâr, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Phrifysgol Llundain. Wedi graddio bu'n gweithio i Urdd yr Heddychwyr yng Nghaerdydd. Cafodd yrfa academaidd nodedig yn cynnwys swyddi ym mhrifysgolion Llundain a Belfast cyn ei benodi yn Athro Daearyddiaeth yn y London School of Economics o 1961 hyd 1984. Derbyniodd amryw o raddau am ei gyfraniad arbennig i ddaearyddiaeth a'r byd academaidd. Bu'n awdur nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys yn arbennig ei astudiaeth o gymuned y Cymry yn Utica, Efrog Newydd a'r gyfrol diweddar "Y Cymry yn Llundain 1500-2000" fel golygydd a phrif gyfrannwr. Bu'n aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion oddi ar 1957, yn Gadeirydd ei Chyngor 1984-89 ac yn Llywydd y Gymdeithas on 1989-2001 gan arolygu'r dathliad yn 2001. 250 o flynyddoedd ers sefydlu'r Gymdeithas. Cyfrannodd yn helaeth i fywyd Cymry yn Llundain ar hyd y blynyddoedd. Cyflwynwyd Medal y Cymrodorion iddo yn 2001 i gydnabod ei gyfraniad nodedig i ysgolheictod ac i Gymru.

Geraint R Jones, Bontnewydd: Rhoddodd oes o wasanaeth i Lywodraeth Leol a'r Eisteddfod Genedlaethol. Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Bangor cyn iddo gymhwyso fel cyfreithiwr. Wedi cyfnod byr gyda chwmni o gyfriethwyr daeth i weithio i Gyngor Sir Gwynedd lle bu'n gyfreithiwr ac yna'n Ysgrifennydd y Sir. Ar ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996 penodwyd ef yn Brif Weithredwr. Gweithiodd yn galed i sefydlu'r sir newydd a'i pholisi iaith. Bu'n Ysgrifennydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol ers nifer o flynyddoedd. Gwnaeth waith sylweddol yng nghyd-destun y newidiadau diweddar i'r Eisteddfod. Hefyd bu'n Ysgrifennydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yng Nghaernarfon 1979. Mae'n lên garwr ac yn cefnogi'r 'pethe' yn lleol ac yn genedlaethol. Mae'n flaengar yn ei gapel lleol yn aelod o'r clwb llenyddol ac yn cefnogi pob digwyddiad diwylliannol.

Glyn T Jones, Aberystwyth: Gŵr a roes oes o wasanaeth i nifer o'n sefydliadau cenedlaethol gan ddal amryw swyddi yn eu pwyllgorau - yr Eisteddfod Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru, Cymdeithas Ddawns Werin Cymru, Cymdeithas Cerdd Dant. Bu'n amlwg hefyd ar lwyfannau'r prif wyliau fel arweinydd a beirniaid dawnsio gwerin. Mae'n flaenor ym Mlaenplwyf ac yn Drysorydd Henaduriaeth Gogledd Aberteifi ers 1998. Bu'n Ysgrifennydd y Gymanfa Gyffredinol ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Bugeiliol. Y mae ganddo ddiddordeb mawr mewn hen reilffyrdd ac ef yw Cadeirydd Cymdeithas Datblygu Rheilffyrdd Canolbarth Cymru. Y mae'n ysgrifennydd Apêl Sganiwr a Chancer Ysbyty Bronglais a gwelodd godi dros filiwn o bunnoedd i'r achos. Gŵr eang ei ddiwylliant a'i ddiddordebau a'i weithgarwch yn eang yn ei filltir sgwâr yn ogystal â chenedlaethol.

Delyth Mai Nicholas, Pontarddulais: Cystadleuydd adrodd / llefaru mewn eisteddfodau bac a mawr ers yn dair oed gan ennill llu o wobrwyon yn cynnwys chwe gwobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a chwe gwobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n hyfforddi unigolion a phartïon i gystadlu am dros 20 mlynedd. Bu'n athrawes ddrama a bellach mae'n ddarlithydd yn Adran Theatr Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. O ganlyniad bu'b hyfforddi nifer fawr o blant a phobl ifanc yn y maes actio. Bellach y mae wedi cychwyn Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi i blant a phobl ifanc rhwng 9 a 18 oed. Bu'n arweinydd ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol, yn aelod o Is-Bwyllgor Llefaru amryw o Eisteddfodau y De a bu hefyd yn aelod o Is-Bwyllgorau Eisteddfodau'r Urdd. Bellach mae'n aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r Eisteddfod a'r Pethe wedi bod yn rhan o'i bywyd erioed.

Meurig Owen, Llundain: Brodor o Lanrug, Caernarfon. Gadawodd Ysgol Brynrefail yn 1937 pan aeth i weithio mewn swyddfa yswiriant yn Llundain. Ac eithrio cyfnod y rhyfel bu yno nes iddo ymddeol rai blynyddoedd yn ôl. Blaenor yn eglwys Lewisham er 1953 ac ysgrifennydd er 1961. Cymer ddiddordeb mewn hanes lleol ac yn arbennig hanes y Cymry a'u Heglwysi yn Llundain, ynghyd ? hanes rhai o chwareli llechi Gwynedd. Dengys ei gyfrolau sylweddol Tros y Bont - hanes Eglwysi Falmouth Road, Deptford a Parsons Hill Woolwich, ac Ymofyn am yr hen Lwybrau - hanes saith o Eglwysi Presbyteraidd Cymraeg Llundain - ôl casglu helaeth a llafur manwl iawn. Y maent yn gyfnodolion amhrisiadwy o fywyd ysbrydol a chrefyddol y Cymry alltud yn Llundain. Pwysig hefyd yw'r darlithoedd a gyhoeddwyd ganddo James Hughes a'i Deulu ac Emynwyr Henaduriaeth Llundain. Y mae ei waith hi gyd yn dwyn nodau ymchwilydd manwl a diarbed, Dyma lafur cariad y Cymro alltud nodedig hwn.

Emyr Owen Parri, Talwrn, Ynys Môn: Brodor o Gaernarfon a chyfreithiwr wrth ei alwedigaeth. Cyfreithiwr uchel iawn ei barch, gan baratoi achosion llys yn drylwyr a dawn areithio arbennig ganddo, Ymddangosodd yn rheolaidd yn y Llysoedd Ynadon a bu'n ymdrin a llu o achosion mawr a blaenllaw yn Llys y Goron a'r Uchel Lys. Fe'i penodwyd yn Gofiadur a bu'n gweithredu fel Cofiadur yn Llysoedd y Goron yng Nghymru a Lloegr. Yn yr 1980au fe'i penodwyd yn Ddirprwy Farnwr Rhanbarth cyn iddo gael ei benodi yn farnwr Rhanbarth llawn amser yn 1992. Bu yn y swydd honno am 10 mlynedd. Drwy gydol ei yrfa bu'n gefnogol ac yn flaengar iawn ynglŷn â hyrwyddo'r Gymraeg. Bu'n gweithredu ar nifer o bwyllgorau cenedlaethol yn ymwneud â defnydd o'r iaith yn y llysoedd ac yn ddiweddar bu'n paratoi cyrsiau undydd ar y pwnc. Cyfrannodd yn helaeth i faterion diwylliannol yn ei filltir sgwâr - yn flaenllaw gyda gweithgareddau Theatr Fach Llangefni, aelod o barti Cerdd Dant Haf Morris, a bu'n chwarae criced i Glwb Llangefni - heblaw hybu achosion dyngarol ac elusennol.

Gwennant Pyrs Roberts, Bangor: Brodor o bentref Llanuwchllyn a raddiodd o Adran Cerddoriaeth Prifysgol Cymru Bangor. Ar ôl cyfnod yn gweithio fel athrawes beripatetig ymsefydlodd yn bennaeth adran cerdd Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Cyfrannodd hefyd ar lwyfan cenedlaethol a hynny'n bennaf fel sylfaenydd ac arweinydd Parti Seiriol a droes yn y man y Gôr Seiriol. Ers ei sefydlu yn 1991 gosododd y côr marched hwn safon i'w efelychu ar gyfer canu corawl i ferched yng Nghymru a rhagorodd ar ganu cerdd dant gyda gosodiadau cerddorol a deallus ei harweinydd. Enillodd droeon ar brif lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Ŵyl Gerdd Dant a dyma'r unig gôr marched Cymreig i'w wahodd i gymryd rhan fis Tachwedd y llynedd yng ngala agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru. Yn yr un flwyddyn cynhaliodd y côr gyngerdd mawreddog yn Neuadd Pritchard Jones, Prifysgol Cymru Bangor pryd y perfformiwyd am y tro cyntaf gwaith comisiwn 'Cantus Triquetrus' gan y cyfansoddwr Cymreig Karl Jenkins. Er 1993 cyhoeddodd y côr bedwar cryno ddisg sy'n cynnwys detholiad o'u repertoire amrywiol ac uchelgeisiol. Arweinydd crefftus ac ysbrydoledig.

David Richard Williams, Florida: Ganed yn Llanelwy ac addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Bod Alaw, Bae Colwyn, Ysgol Eirias Bae Colwyn a Phrifysgolion Aberystwyth, Gogledd Carolina a Florida, America. Graddiodd mewn economeg. Bu mewn amryw o swyddi ym Mhrifysgol Florida a Gogledd Carolina gan arbenigo mewn dysgu ac ymchwil yn yr adrannau Economeg. Cadwodd gysylltiad agos â Chymru. Llywydd cyntaf a sefydlwr (gyda'r Dr Arturo Roberts) y Siambr Fasnach Cymru yng Ngogledd America. Ers 1989 ef yw Llywydd Corff Ymgynghorol Economaidd Florida ac athro cynorthwyol mewn Economeg Prifysgol Miami, Florida. Bu'n hael ei nawdd i'r ysgolion lle derbyniodd ei addysg gynnar.

  • Ewch i weld lluniau'r Orsedd yn gadael y maes!



  • About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy